Biliau ynni yn codi tua £60 y flwyddyn, a rhybudd am gostau uwch i ddod

Mae biliau ynni wedi cynyddu tua 4% i gartrefi sy'n talu am eu nwy a thrydan drwy dariff amrywiol
- Cyhoeddwyd
Mae biliau ynni i filiynau o gartrefi yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi cynyddu tua 4%, wrth i'r cap newydd ar brisiau ddod i rym ar 1 Hydref.
Mae'r pris sydd wedi ei osod gan y rheoleiddiwr Ofgem yn golygu cynnydd o tua £60 y flwyddyn ar gyfartaledd - neu £5 y mis i gartrefi sy'n defnyddio nwy a thrydan a sydd ar dariff amrywiol.
Mae'r cynnydd ychydig yn is oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi torri TAW ar drydan domestig tan fis Mawrth 2027.
Ond mae arbenigwyr yn rhagweld cynnydd pellach o tua 16% mewn biliau ynni yn y flwyddyn newydd, oherwydd effeithiau'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
'Cyfnod heriol i deuluoedd'
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd yr arbenigwr ar y diwydiant ynni, Huw Michael bod prinder nwy oherwydd y sefyllfa yn Dwyrain Canol yn debygol o olygu prisiau uwch yn 2027.
"Dyw'r allforion nwy mewn tanceri ddim yn gallu dod mas drwy gulfor Hormuz a mae hwn yn lleihau'r cyflenwad i'r farchnad fyd-eang.
"O ganlyniad mae prisiau'r farchnad yn adlewyrchu hyn.
"Mae nwy yn brin, a mae'n debyg eith e'n fwy prin wrth bo' ni'n mynd i mewn i'r tywydd oer yn Ewrop ac yn America dros y gaeaf."
Ychwanegodd bod yna gymorth ar gael fel y cynllun 'Cartrefi Clyd' ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau a chronfa gan lywodraeth leol ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r caledi mwyaf.
Dywedodd Huw Michael hefyd nad oes raid i bobl dderbyn y cap uwch a bod posib chwilio am gynigion rhatach.
"Mae modd arbed peth arian yn y farchnad, ryw 3% yn sicr ar brisiau sefydlog am flwyddyn neu ddwy flynedd, ond wrth dderbyn pris sefydlog felna am gyfnod mor hir a hynny mae 'na beryg y byddwch chi'n talu mwy os cwympith prisiau'r farchnad eto.
"Mae rhai cwmnïau yn cynnig tariff cyfnewidiol sy'n rhatach na'r uchafbris hefyd, felly mae modd siopa o gwmpas yn y farchnad i arbed peth arian."

Dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan mai'r rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sy'n cael eu taro waethaf gan y cynnydd mewn prisiau ynni
Dywedodd Dr Steffan Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Bevan ar Dros Frecwast bod y cynnydd yn dod ar adeg anodd i nifer o bobl.
"Mae hwn yn dod ar ôl cyfnod heriol dros ben i nifer o deuluoedd, felly mae'r gwytnwch yna sydd wedi bod gyda pobl wedi cael ei leihau dros amser, a mae llai o arian gan bobl yn y banc i ymdopi gyda'r cynnydd hyn."
Ychwanegodd hefyd mai'r rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd sydd yn cael eu taro galetaf gan y cynnydd.
"Tra bod dyled egni - faint o filiau sy'n mynd heb eu talu, wedi cynyddu'n eitha sylweddol ers y rhyfel yn Wcrain, dyw nifer y bobl sydd mewn dyled ddim wedi cynyddu cymaint â hynny, felly mae'n dangos taw'r rheiny oedd yn stryglo gyda'u costau egni sy'n wynebu'r her fwyaf.
"Mae hwnna'n codi'r cwestiwn a oes angen rhywbeth sy'n targedu'n fwy uniongyrchol y rhai sydd ar yr incymau isaf achos rheiny yw'r bobl - mae'n cael effaith ar bawb, mae pawb yn teimlo'r esgid yn gwasgu, ond mae'n cael effaith mwy andwyol ar rheiny o ran eu gallu i dalu am y costau a bwyd ac ati."

Pobl ar y stryd fawr Bangor yn dweud y bydd y prisiau newydd yn cael effaith
Ar y stryd fawr ym Mangor, roedd pobl yn dweud eu bod yn teimlo'r pwysau.
"Dan ni'n cael ein gwasgu o bobman ar y funud pan dan ni'n prynu bwyd, gyrru car neu talu biliau, mae 'na bwysau o bobman ar y funud", meddai un dyn.
Dywedodd dynes bod ei bil hi "ychydig o bunnoedd yn rhatach na'r llynedd", a'i bod yn "ffodus iawn o hynny".
Ond ychwanegodd y gallai fod yn "anodd" os bydd ei biliau yn mynd i fyny eto.
Dywedodd dynes arall ei bod yn "gweithio'n galed" ond yn "mynd tuag at yn ôl nid ymlaen".
"Dwi byth bron yn y tŷ - dwi allan yn gweithio," meddai, "a fasech chi'n meddwl bod tua 4,5,6 o bobl yn byw yno yn ôl faint dwi'n dalu a dim ond fi sydd yno - dwi prin yn defnyddio unrhyw beth - mae'n hurt."
Straeon Perthnasol
Biliau ynni i godi yn sgil effaith y rhyfel yn Iran
- Cyhoeddwyd27 Mai
Argyfwng costau byw: Annog mwy i sefydlu mannau cynnes
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.