50 mlynedd ers un o grysau mwyaf eiconig Cymru

admiralFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru yn cyn wynebu Iran ar 18 Ebrill, 1978

  • Cyhoeddwyd

Mae crysau pêl-droed yn gallu bod yn bethau gwerthfawr, yn enwedig os ydyn nhw'n cynrychioli cyfnod aur carfan. Ond maent hefyd yn gallu bod yn arbennig i unigolyn am resymau gwahanol, boed hynny'n atgofion melys neu'r cariad at ffasiwn chwaraeon.

Un o grysau mwyaf eiconig tîm cenedlaethol Cymru yw'r crys o 1976 i 1979, a gynhyrchwyd gan Admiral.

Mae Peris Hatton o Fae Kimnel yn casglu crysau pêl-droed ers blynyddoedd ac mae'n hynod wybodus yn y maes. Siaradodd Peris gyda Gwenllian Grigg ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ar 8 Hydref.

"Ma'r crys 'ma'n un o'r ffefrynnau yn y casgliad i fod yn onest, a dwi'n ddigon hen i gofio'r crys yn dod allan yn wreiddiol yn 1976. Ges i ddim un pan o'n i'n hogyn bach, ond dwi 'di gallu cael un bellach – y crys, y siorts a'r sanau.

"Dwi'n ffodus bod gen i un yn ei fag gwreiddiol Admiral o'r 1970au. 'Nes i ffeindio'r crys yn Llundain rhyw 10 mlynedd yn ôl, rhan o gasgliad rhywun yn Camden, ac o'n i'n lwcus bod o mewn cyflwr perffaith a dal yn ei fag, felly dwi 'di ei gadw o am rŵan beth bynnag."

Terry Yorath Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Terry Yorath yn cynrychioli Cymru yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd yn 1979

Dyluniad â 'dipyn o steil'

Yn wahanol i grysau pêl-droed blaenorol, mae Peris yn grediniol bod rhywbeth trawiadol am y crys penodol yma o 1976 i 1979.

"Yn draddodiadol yn y 1960au a'r 1970au, crysau digon plaen o'dd bobl yn gwisgo – Lloegr mewn un plaen gwyn, Iwerddon mewn plaen gwyrdd a Chymru efo crys coch Umbro, ac yna Bukta yn 1975. Ond yn 1976 be welon ni oedd cwmni o'r enw Admiral yn newid y gêm go iawn o ran kits pêl-droed.

"Be welon ni oedd kit hollol wahanol efo'r streipiau yn mynd lawr y ffrynt o'r ysgwydd i waelod y crys, ac yr un patrwm yn mynd lawr y siorts a sanau coch efo melyn a gwyrdd arnyn nhw.

"Felly, yn hytrach na rhyw hen grys plaen diflas, be oedd gennym ni rŵan oedd rwbath efo dipyn o steil ac yn wahanol i ddim byd welon ni o'r blaen.

"Eto yn draddodiadol bydda'r bathodyn wedi bod ar ochr dde'r crys (chwith tra'n ei wisgo), ond be o'dd genny' ni rŵan oedd rwbath reit yng nghanol y crys, un o'r pethau cyntaf ti'n gweld ynghŷd â'r streipiau.

"Yn hynod o smart hefyd oedd y crys oddi cartref – crys melyn efo bands gwyrdd a coch yn mynd lawr y blaen fel y crys cartref, ac mae o mor smart, a dal yn smart heddiw, hanner canrif yn ddiweddarach."

Cafodd Admiral ei sefydlu yng Nghaerlŷr yn 1914 ac mae'r cwmni'n dal i greu dillad chwaraeon hyd heddiw.

Crys Admiral oddi cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y crys oddi cartref ar ddiwedd y 1970au

Felly, pam fod y crys yma mor arbennig i Peris?

"'Dan ni gyd fel Cymry wedi cael gymaint o siomedigaeth dros y degawdau tan yn gymharol ddiweddar, ac roedd hyn yr un peth efo'r crys newydd 'ma pan ddoth o allan. Be o'dd genny' ni oedd chwaraewyr fel Mickey Thomas a John Toshack yn gwisgo'r crys, a dwi'n cofio Toshack yn cael hattrick tra'n gwisgo'r crys.

"Mae 'na ddigon o dorcalon hefyd yn erbyn Yr Alban yn Anfield yn 1977, ac fe gollon ni mewn ffordd hynod ddadleuol ac o ganlyniad ddim cyrraedd Cwpan y Byd 1978.

"Mae o yn y 10 uchaf o fy nghasgliad i, heb os. 'Nath Admiral newid y gêm, a dod a ffasiwn a bathodyn y crys arno, ac mae hwn fyny 'na gyda rhai o'r crysau gorau eraill i Admiral ei gynhyrchu – Spurs, West Ham a Norwich hefyd."

Cymru 1978Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brian Flynn yn chwarae dros Gymru yn y gêm dorcalonnus yn erbyn Yr Alban yn Anfield, 12 Hydref 1977

Snobyddiaeth am SUDU?

Mae carfanau presennol Cymru wedi ymadael o Adidas wedi 13 mlynedd, a bellach SUDU yw'r cwmni sy'n cynhyrchu'r crysau cenedlaethol.

"Mae 'na gymysgfa wedi bod ynglŷn â chrys ddiweddara Cymru, ac 'chydig o snoberry (am SUDU) efallai", meddai Peris.

AmpaduFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ethan Ampadu yng nghrys newydd Cymru

"Dydi o ddim yn gwmni ma' lot yn ei 'nabod gan ei fod o'n gwmni newydd. Ond i mi mae'r crys cartref a'r oddi cartref yn reit smart.

"Mae petha'n symud yn eu blaena a wnewch chi ddim plesio pawb – rhy blaen, rhy ffansi, neu ddim yn hyn neu llall. Y lliw sy'n bwysig, y coch cywir neu'r melyn cywir, a gobeithio y bydd 'na rywfaint o lwyddiant yn y crys newydd 'ma hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: