40 mlynedd ers i Gymru ysbrydoli 'duw animeiddio' Studio Ghibli

Hayao MiyazakiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hayao Miyazaki, un o sylfaenwyr Studio Ghibli

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ychydig dros ddeugain mlynedd yn ôl ymwelodd dyn o'r enw Hayao Miyasaki â Chymru. Artist manga ac un o animeiddwyr mwyaf llwyddiannus y byd yw Miyasaki, a gafodd ei alw yn "dduw anime" gan newyddiadurwr yn Yr Eidal yn 2005.

Mae'n gyd-sylfaenydd un o gwmnïau animeiddio mwya'r byd, Studio Ghibli. Y stiwdio hon gynhyrchodd y ffilmiau Princess Mononoke, My Neighbour Totoro a Spirited Away, a enillodd Oscar am ffilm wedi'i hanimeiddio yn 2003.

Ond y ffilm Laputa: Castle in the Sky yw'r un sydd wedi'i hysbrydoli gan Gymru.

Poster gwreiddiol Laputa: Castle in the Sky (1986)Ffynhonnell y llun, Studio Ghibli/Toei Company
Disgrifiad o’r llun,

Poster gwreiddiol Laputa: Castle in the Sky (1986)

Yn 2005, cafodd y ffilm Howl's Moving Castle ei rhyddhau sydd hefyd â chysylltiadau â Chymru – roedd hon yn addasiad o nofel gan Diana Wynne Jones a oedd wedi'i magu am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd ym Mhontarddulais.

Mewn cyfweliad prin adeg hyrwyddo'r ffilm honno, gyda Xan Brooks o The Guardian, dolen allanol, dywedodd Miyazaki ei fod wedi ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn 1984 a bod ganddo feddwl mawr o'r wlad.

Ym mis Awst 1986 y cafodd Laputa: Castle in the Sky ei rhyddhau i sinemâu ledled Japan – Miyazaki oedd awdur y ffilm a'i chyfarwyddwr.

Ar y pryd, ni wyddai pobl yng ngwledydd Prydain ryw lawer am y ffilm – ni chafwyd dyb Saesneg tan 1987, a chyrraeddodd hi ddim cynulleidfa eang tan 2000 pan ryddhaodd Disney dyb Saesneg newydd gyda lleisiau Anna Paquin a'r diweddar James van der Beek – yn enwedig sut y cafodd ei hysbrydoli gan ymweliad Miyazaki â Chymru.

Roedd ei ymweliad â Chymru ar adeg streic y glöwyr. Fe welodd Miyazaki yr hyn oedd yn digwydd â'i lygaid ei hun ac fe ddefnyddiodd y profiad wrth greu Laputa: Castle in the Sky. Yn y cyfweliad hwnnw â The Guardian dywedodd Miyazaki:

"Ro'n i'n edmygu'r dynion rheiny. Ro'n i'n edmygu'r ffordd yr oedden nhw'n brwydro dros achub eu bywoliaeth, yn union fel gwnaeth y glöwyr yn Japan. Mae llawer o bobl o fy nghenhedlaeth i'n gweld y glöwyr fel symbol; milwyr parod sy'n prysur farw o'r tir. Rŵan, maen nhw wedi mynd."

Ym mha ffordd mae Cymru wedi ysbrydoli Laputa: Castle in the Sky?

Yr hyn sy'n anhygoel am Laputa: Castle in the Sky a rhai o ffilmiau eraill Studio Ghibli yw bod bob un ffrâm wedi'i darlunio â llaw.

Cafodd 69,000 o luniau eu creu ar gyfer y ffilm – pob un yn seiliedig ar ddyluniadau Miyazaki. Yn y lluniau hyn y gwelir dylanwadau tirwedd ac adeiladau Cymru yn hytrach nag yn y prif gymeriadau.

Pentrefwyr yn ymladd dros PazuFfynhonnell y llun, Studio Ghibli
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion y pentref diwydiannol yn ymladd dros eu pobl yn y ffilm

Stori ffantasi ac antur yw Laputa: Castle in the Sky. Daw Pazu o bentref diwydiannol, ac yn y pentref bach hwnnw y mae'r stori'n dechrau ar ôl i ferch ddisgyn fel pluen o'r awyr a glanio yng nghanol peirianwaith y chwarel.

Mae'r ffilm yn dilyn helynt Sheeta a Pazu wrth iddyn nhw chwilio am gastell chwedlonol Laputa sy'n arnofio yn yr awyr, ond mae môr-ladron ac asiant y llywodraeth ar eu hôl nhw a'r fwclis bwerus mae Sheeta'n ei gwisgo.

Mae asiant y llywodraeth, Muska, yn chwilio am ffynhonnell y grym anhygoel sy'n caniatáu i'r castell arnofio.

Wrth i'r môr-ladron a'r asiant geisio erlid y pâr ifanc, mae trigolion y pentref sy'n gartref i Pazu yn ei helpu ef a Sheeta i ddianc rhagddynt.

Y cymeriadau hyn a'r dref hon sydd wedi'u hysbrydoli gan löwyr Cymru ac ardal ddiwydiannol cymoedd de Cymru. Mae dyluniad y dref yn edrych fel cymunedau'r Rhondda gyda thai yn brathu allan o lethrau'r tir gan greu strydoedd hir.

Mae'r trigolion mewn gwisgoedd tebyg i ddillad gwaith glöwyr ac mae'r porterad ohonynt yn un cadarnhaol o ysbryd cymunedol. Un o themâu'r rhan hon o'r ffilm yw'r dirywiad mewn gwaith a diwydiant mewn cymunedau fel hyn.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 4, Yr olygfa i lawr y cwm o Glyn Cornel, 28 Hydref 1972. O'r chwith i'r dde: Trealaw, Rhondda Fawr, Pen y Graig, Tonypandy, Clydach Vale., Tirwedd cymoedd diwydiannol de Cymru yn 1972

Laputa, y castell yn yr awyr

Dywedir i Miyazaki ymweld â nifer o gestyll Cymru pan ddaeth yn ôl yn 1985 i wneud ymchwil ar gyfer y ffilm. Fe aeth i gestyll Caernarfon, Caerffilli a Phowys a defnyddiodd y tri adeilad anhygoel yma i greu ynys Laputa lle'r oedd y castell yn yr awyr yn sefyll.

Mae'n debyg mai Castell Caerffili oedd y prif ysbrydoliaeth ar gyfer Laputa. Wrth edrych arno o'r awyr, mae Castell Caerffili yn edrych fel pe bai'n arnofio. Mae'r ddau gastell arall wedi ysbrydoli'r haenau amrywiol i Laputa, gan gyfrannu at siâp y bensaernïaeth ryfeddol sydd ganddo.

Dyluniad gwreiddiol Miyazaki o LaputaFfynhonnell y llun, Hayao Miyazaki/Studio Ghibli
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad gwreiddiol Miyazaki o Laputa

Castell PowisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Powys yn sefyll yn uchel uwchben gerddi'r castell

Castell CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Caerffili, fel pe bai'n arnofio ei hun

Laputa Ffynhonnell y llun, Studio Ghibli
Disgrifiad o’r llun,

Laputa, y castell yn yr awyr

LaputaFfynhonnell y llun, Studio Ghibli
Disgrifiad o’r llun,

Haenau amrywiol o bensaerniaeth cestyll yn creu Laputa

Ghibli yn ysbrydoli storïwyr ac awduron Cymru

Un awdur sydd wedi'i hysbrydoli gan waith Miyazaki yw Megan Angharad Hunter. Fe ddaeth i wybod am y ffilmiau ar ôl i'w thad brynu DVD Princess Mononoke iddi hi a'i chwaer "ar fympwy" pan oedden nhw'n blant bach. Dywedodd wrth Cymru Fyw,

"Roedd y tri ohona ni wedi gwirioni efo gwreiddioldeb y stori a'r byd, y gwaith celf, y gerddoriaeth, y themâu… popeth! Roedd o mor ffres, mor aeddfed a heriol i gymharu efo'r ffilmiau eraill wedi'u hanimeiddio roedden ni wedi'u gweld o'r blaen, fel stwff Disney.

"Ymhen rhai blynyddoedd, roedd ganddon ni gasgliad anferthol o DVDs Studio Ghibli yn y tŷ!"

Megan HunterFfynhonnell y llun, Megan Hunter

Eglurodd yr awdur fod y ffilmiau wedi ei hysbrydoli hi, a sut mae'n mynd ati i greu ei bydoedd yn ei gwaith ei hun.

"Mae dychymyg Hayao Miyazaki mor unigryw, yn hyfryd a rhyfedd a dyrchafol a swreal ar yr un pryd; mae'i ffilmiau fo i gyd yn wefreiddiol a dwi'n meddwl ei fod yn amhosib i berson creadigol beidio â chael eu hysbrydoli ganddyn nhw!

"Mae 'na ymdrech a gofal eithriadol tu ôl i'r animeddio tlws hefyd, felly os nad yda chi'n ffan o'r stori, mae'n amhosib peidio ag edmygu'r elfennau gweledol.

"Cyflwynodd Studio Ghibli fi i gangen o ffantasi nad oedd yn gyfarwydd i mi - straeon hollol wahanol i'r rhai ffantasi canoloesol sy'n fwy cyffredin yn y gorllewin; maen nhw'n sicr wedi dylanwadu ar y ffordd dwi'n sgwennu straeon ffantasïol, ac yn fy annog i drio creu petha sy' ella ychydig bach yn wahanol i'r traddodiad ffantasi gorllewinol arferol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol