Alun Wyn Jones yn dychwelyd i'r Gweilch ond nid fel chwaraewr

Chwaraeodd Alun Wyn Jones dros Toulon ar ôl gadael y Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cadarnhau y bydd cyn-gapten Cymru, Alun Wyn Jones yn dychwelyd fel aelod o staff ar ôl cael ei benodi'n gyfarwyddwr.
Mae'r cyn-chwaraewr 40 oed yn aelod o'r bwrdd ac mae ei waith yn dechrau'n syth.
Fe ddaw'r newyddion yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes y rhanbarth wrth iddyn nhw frwydro am eu dyfodol gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) yn bwriadu cael gwared ar un o ranbarthau Cymru.
Cynrychiolodd Alun Wyn Jones y Gweilch am y tro cyntaf yn 2005, blwyddyn ar ôl iddo greu argraff yng nghlwb Abertawe.
"Mae gen i ddealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru a'r Gweilch," meddai.
"Ond dwi hefyd yn gallu gweld y cynlluniau o gwmpas y rhanbarth, datblygiad Sain Helen a'r egni sydd o gwmpas cefnogaeth y rhanbarth."
Mae disgwyl i Gaerdydd, sy'n eiddo i'r undeb, a'r Dreigiau, sy'n eiddo i berchnogion preifat, gael trwyddedau a fyddai yn y bôn yn rhoi'r Gweilch a'r Scarlets benben â'i gilydd i geisio sicrhau'r safle olaf fel y trydydd rhanbarth yng Nghymru.
Mae'r Gweilch wedi beirniadu cynlluniau URC - gan ddweud mai cadw pedwar rhanbarth yng Nghymru ydy'r ffordd ymlaen.
Mae Cadeirydd y Gweilch, James Davies-Yandle, yn hapus eu bod wedi penodi Alun Wyn Jones, a enillodd 158 o gapiau dros Gymru a 12 dros y Llewod.
"Doedden ni ddim yn edrych am ffigwr symbolaidd," meddai "o'n i'n chwilio am gyfarwyddwr sy'n deall y clwb o'r tu mewn, a fydd hefyd yn gallu sefyll ei dir yn ystafell y bwrdd."
"Roedd y bwrdd yn gryf yn barod; ond mae hwn yn ei wneud yn gryfach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd5 Mehefin

- Cyhoeddwyd22 Ebrill
