Dod o hyd i luniau o 'filwyr coll' o Gymru wedi'u claddu yn yr Iseldiroedd

Lluniau du a gwyn o Edward David Davies ac Albert Henry WheelerFfynhonnell y llun, Theo Vervoort
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lluniau'n barod i gael eu gosod ar feddau dau o filwyr o Gymru

GanMeleri Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai lluniau o "filwyr coll" o Gymru sydd wedi'u claddu mewn mynwent ryfel wedi eu darganfod yn dilyn apêl gan wirfoddolwyr yn yr Iseldiroedd ar BBC Cymru.

Mae ymgyrchwyr yn nhref Venray yn ne-ddwyrain y wlad yn gofalu am feddau mwy na 600 o filwyr Prydeinig, nifer o Gymru, a gafodd eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd.

"Fe wnaeth y dynion hyn dalu'r pris eithaf am ein rhyddid," dywedodd Theo Vervoort o Sefydliad Mabwysiadu Beddau Mynwent Ryfel Venray.

"Wnawn ni ddim eu hanghofio ac ry'n ni eisiau adrodd eu straeon wrth y genhedlaeth nesaf."

Mae cannoedd o luniau wedi'u darganfod a'u gosod ar y beddau drwy gysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'r chwilio am y milwyr Cymreig sy'n weddill yn parhau.

Rhesi o gerrig beddau yn Venray, a channwyll ar bob bedd.Ffynhonnell y llun, Sefydliad Mabwysiadu Beddau Mynwent Ryfel Venray
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwirfoddolwyr yn gofalu am y fynwent, ac yn gobeithio gosod llun ar bob carreg

Ar ôl i'r stori gael ei rhannu ym mis Awst, dywedodd Catherine Travis, 66 oed, o Dredegar, Blaenau Gwent, ei bod wedi cael syndod o ddeall bod gwirfoddolwyr yn gofalu am fedd aelod o'i theulu.

"Do'n i ddim yn gallu credu bod 'na fenyw yn gofalu am y bedd, a hynny oll oherwydd bod ein milwyr wedi ymladd dros eu gwlad yn yr Iseldiroedd," meddai.

Roedd Albert Henry Wheeler o Glydach, Sir Fynwy, yn 28 oed pan fu farw ym mis Tachwedd 1944.

Dechreuodd Catherine ymchwilio i'w gefndir y llynedd, ac erbyn hyn, mae gan y gwirfoddolwyr lun ohono.

Llun o Catherine Travis. Mae ganddi wallt byr gwyn. Mae'n gwisgo crys las â phatrwm lliwgar.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Catherine Travis yn teithio i'r Iseldiroedd yn ddiweddarach yn y mis

"Rydw i wedi dysgu cymaint am Albert Wheeler. Mae wedi cymryd drosodd fy mywyd, mewn gwirionedd," eglurodd Catherine.

"Mae'n rhyfedd meddwl ein bod ni bellach wedi rhoi wyneb i'r bedd, ein bod ni'n gwybod hanes y frwydr ac yn gwybod yn union ble y bu farw, a'n bod ni wedi llunio darlun o Albert, o'i blentyndod hyd at ei farwolaeth."

Mae Catherine wedi bod mewn cysylltiad â Lotte Scharn, 29 oed, sy'n gofalu am y bedd. Bydd y ddwy yn cwrdd yn ystod ei hymweliad cyntaf â Venray yn ddiweddarach ym mis Hydref.

"Rwy'n teimlo bod rhaid i mi fynd. Rwy'n gwybod cymaint am y dyn, rwy'n teimlo bod rhaid i fi fynd yno i dalu fy nheyrnged, gosod blodau a dweud diolch," meddai.

"Bydd yn hyfryd, ond bydd yn achlysur emosiynol."

Llun du a gwyn o Albert Henry Wheeler.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Albert Henry Wheeler yn Venray yn 1944

Dywedodd Lotte, sy'n gweithio fel newyddiadurwr yn yr Iseldiroedd, fod ymchwilio i hanes Albert Wheeler yn ddiweddar wedi bod yn "daith ddiddorol".

Mae hi wedi dod i ddeall, drwy ddyddiaduron rhyfel o'r ardal, iddo farw yn agos iawn at ei chartref, yn ystod Brwydr Overloon.

"Dechreuodd hyn fel fy mhrosiect bach fy hun," meddai.

"Mae'n dechrau teimlo'n bersonol iawn. Nid fy nheulu i yw e, a doeddwn i ddim yn adnabod y dyn yma o gwbl, ond mae'n dechrau teimlo bod gen i gysylltiad â'i stori."

'Byddai fy mam yn methu credu'r peth'

Dywedodd Jackie Pryce-Elias, 60 oed, o Gaerfyrddin, ei bod wedi ei syfrdanu'n llwyr pan welodd yr apêl i ddod o hyd i lun o'i thad-cu ar y newyddion.

Yna, cysylltodd ei merch, Kelly, â'r gwirfoddolwyr yn Venray drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

"Pe bai fy mam yn dal yn fyw ac yn gwybod bod pobl yr Iseldiroedd yn gofalu am eu beddau, byddai hi'n methu credu'r peth," meddai Jackie.

"Rydw i a fy chwaer wedi dweud ein bod ni eisiau mynd yn ôl yno nawr. Aethon ni dair blynedd yn ôl. Roedd e'n brofiad emosiynol.

"Ond nawr bod hyn i gyd wedi digwydd, gyda'r BBC, mae'r stori wedi mynd allan yna ac mae ei enw yna, felly rydw i a fy chwaer eisiau talu teyrnged unwaith eto, a gweld y bobl sydd wedi bod yn gofalu am y beddau hyn."

Kelly, ei merch fach, Rumi, a'i mam, Jackie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jackie (dde) a'i merch, Kelly (chwith), yn gobeithio y bydd y genhedlaeth nesaf yn dysgu am hanes y teulu

Bydd Jackie yn teithio i Venray ar gyfer seremoni ar 18 Hydref, sy'n nodi'r diwrnod y cafodd y dref ei rhyddhau gan filwyr Prydeinig ym 1944.

Mae Theo Vervoort yn paratoi i groesawu'r teuluoedd i'r ardal, ynghyd â'i gyd-wirfoddolwyr, sy'n dal i apelio at ragor o berthnasau i gysylltu.

Theo yn y fynwent yn VenrayFfynhonnell y llun, Sefydliad Mabwysiadu Beddau Mynwent Ryfel Venray
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theo Vervoort yn dal i chwilio am luniau o filwyr

Pwy yw'r milwyr sydd dal heb lun?

Mae'r gwirfoddolwyr yn dal i chwilio am luniau o'r milwyr canlynol o Gymru:

  • Mervyn Hopkin Davies, o Faesteg, Pen-y-bont ar Ogwr

  • Joseph Frederick Davies, o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf

  • Evan Owen Davies, o Wrecsam

  • Albert Joseph Harries, o Hwlffordd, Sir Benfro

  • William Edgar Large, o Bontypridd, Rhondda Cynon Taf

  • Norman Peter Lilja, o Gaerffili

  • William Burne O'Donnell, o Forgannwg

  • Frederick Sydney Scott, o Forgannwg

  • John Meredith Taylor, o Gasnewydd

  • David George Williams, o Abertawe

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig