Chwilio am fachgen coll oddi ar arfordir Sir Benfro yn dod i ben

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, roedd tri pherson wedi mynd i drafferthion yn y dŵr yn ardal Traeth Marloes
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y gwaith o chwilio am fachgen 15 oed a aeth i drafferthion oddi ar arfordir Sir Benfro dros y penwythnos yn ailddechrau ddydd Mawrth.
Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod tua 15:30 brynhawn Sul bod tri pherson "mewn trafferthion yn y dŵr ac angen cymorth" yn ardal Marloes, ger Aberdaugleddau.
Fe lwyddodd dau o'r rheiny i achub eu hunain, ond roedd un yn dal ar goll.
Fe dreuliodd criwiau achub 22 awr ar draws dau ddiwrnod yn chwilio am y nofiwr ifanc - bachgen 15 oed yn ymweld â'r ardal ar wyliau o ardal Swydd Efrog, yn ôl yr heddlu.
Ond mae Gwylwyr y Glannau a Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau na fydd y gwaith chwilio yn ailddechrau heb i "wybodaeth ychwanegol" ddod i'r amlwg.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth fod yr ymateb i'r digwyddiad wedi dod i ben, ar ôl i dimau chwilio o'r heddlu, Gwylwyr y Glannau a'r RNLI ddefnyddio adnoddau i chwilio o'r awyr, y môr ac ar dir.
Dywedodd yr heddlu fod teulu'r bachgen wedi cael gwybod am y penderfyniad a'u bod yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Daeth sawl criw ynghyd er mwyn chwilio am y bachgen gan gynnwys criwiau Gwylwyr y Glannau o Aberllydan, Dale a Thyddewi ynghyd â chriwiau bad achub o Angle, Aber-bach, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi, hofrennydd, tîm dronau a'r gwasanaeth ambiwlans.
Daeth y chwilio i ben yn swyddogol am 19:30 nos Lun ar ôl i "ddim byd gael ei ganfod a dim gwybodaeth newydd" meddai'r RNLI.
Ychwanegodd yr RNLI mewn datganiad bod eu "meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r nofiwr yn ystod y cyfnod anodd yma".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.