Cerdded dros 100 milltir o stadiwm Everton i Gaernarfon er cof am Josh

Josh a HuwFfynhonnell y llun, Huw Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Josh a Huw

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Iau 27 Awst bydd ffrindiau Joshua Lloyd Roberts yn cychwyn cerdded o Stadiwm Hill Dickinson yn Lerpwl i Stadiwm yr Oval yng Nghaernarfon er cof amdano.

Bu farw Josh yn 19 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaeathro ger Caernarfon ar 2 Mehefin 2023.

Yn gefnogwr brwd o dimau pêl-droed Everton a thîm Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, bydd ffrindiau Josh yn cyflawni'r her gerdded o dros 100 milltir er mwyn codi arian at elusennau, ac i gofio'n annwyl am eu ffrind a fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 23 oed ar 28 Awst.

Fe sgwrsiodd dau o'u ffrindiau fydd yn cyflawni'r her, Huw Griffith ac Iwan Wyn Bohana ar raglen Ifan Jones-Evans ar BBC Radio Cymru.

Dywedodd Huw, a ddaeth i adnabod Josh pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: "Oedd o'n uffar o foi da, licio laff, licio challenge, licio 'neud bob dim ac yn ffrind i bawb.

"Oedd pawb yn teimlo'n well ar ôl bod yng nghmwni Josh, dyna pam 'dan ni gyd mor committed i neud yr her yma."

Ffrindiau Josh yn 'gefn i'w gilydd' trwy alar

Yn ôl ei gyfaill bore oes, Iwan Wyn Bohana, oedd yn adnabod Josh ers eu dyddiau ysgol yng Nghaernarfon, mae'r her hefyd yn rhan o gefnogi ei gilydd trwy eu galar.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl oedd o'n bwysig pan 'nath hyn ddigwydd mai'r peth cynta' 'nathon ni oedd dod at ein gilydd yn y Newborough Arms yn Bontnewydd.

"Dwi'n meddwl bod hynna yn dangos pa mor bwysig oedd cael pawb at ei gilydd fel ffrindia' a bod yn gefn i'n gilydd."

Tomos Jones, Iwan Wyn, Josh Eden a Josh. Bydd Tomos Jones a Josh Eden yn ymuno â'r her yn Y RhylFfynhonnell y llun, Iwan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Jones, Iwan Wyn, Josh Eden a Josh. Bydd Tomos Jones a Josh Eden yn ymuno â'r her yn Y Rhyl

"Be' oeddan ni'n ei 'neud yn y gorffennol oedd dod at ein gilydd dros ben-blwydd Josh ym mis Awst a chwarae gêm bêl-droed elusennol.

"Felly oedd y tîm ffrindia' adra yn chwarae'n erbyn tîm ffrindia' coleg. Oedd hwnna bob tro'n esgus da i ddod at ein gilydd a chael peint bach a dathlu ei fywyd o."

Cariad Josh at bêl-droed

Yn bêl-droediwr talentog ei hun, fe chwaraeodd Josh i dîm ei brifysgol, i Academi Tref Caernarfon ac i Glwb Pêl-droed Bontnewydd.

Mae gan Huw atgofion melys o'i ffrind ar y cae: "Oedd Josh yn licio tacl 'de a licio ffraeo 'fyd. Nathon ni mynd yn fêts drwy chwara' pêl-droed yn erbyn ein gilydd dipyn o weithia' yn y brifysgol.

"Ganol cae oedd o rhan fwyaf o'r amsar ond fel oedd ei agwedd o, oedd o'n hapus i chwara' yn rwla.

"Oedd o'n licio ei bêl-droed yn amlwg ac oedd o'n mynd i wylio Cymru yn Gaerdydd ac i ffwrdd i wylio nhw."

Roedd yn addas felly i'w ffrindiau ddewis codi arian i elusen Gôl! wrth gyflawni'r her.

Gôl! yw mudiad elusennol cefnogwyr pêl-droed Cymru sy'n codi arian i gynorthwyo plant difreintiedig yn y llefydd mae Cymru'n chwarae pêl-droed.

Maent hefyd yn codi arian at yr elusen gymunedol leol Porthi Dre ac i'r elusen sy'n cefnogi iechyd meddwl dynion, Two Pints Deep.

Huw (chwith) a Josh (dde) gyda ffrindiau agors eraill -  Owain Davies a Tomos BrynFfynhonnell y llun, Huw Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Huw (chwith) a Josh (blaen, dde) gyda ffrindiau agos eraill - Owain Davies a Tomos Bryn - sydd hefyd yn cymryd rhan yn yr her

Tra bod 10 o ffrindiau Josh yn gobeithio cerdded y daith gyfan dros bedwar diwrnod, bydd ffrindiau eraill a rhai o deulu Josh yn ymuno ar wahanol rannau o'r daith cyn cyrraedd Stadiwm yr Oval ddydd Sul.

Dywedodd Huw: "Mi fydd rhieni Josh yn dechra' a gorffan y daith efo ni sydd probably yn lwcus; ar ôl pedwar diwrnod o 10 ohonan ni fyddan ni wedi cael llond bol ar ein gilydd felly fydd o'n neis cael pobl eraill yn ymuno!"

Ychwanegodd Iwan: "'Dan ni ddigon ffit gobeithio. 'Dan ni wedi trio ymarfar ond mae bywyd yn gallu bod yn brysur.

"Y cymal cynta' o Lerpwl i Gei Connah fydd yn tricky achos fod o'n ardal eitha' anghyfarwydd i ni, ond dwi'n meddwl y diwrnod cynta' fyddan ni ar ein cryfa' a fwya' ffresh."

Iwan Wyn a JoshFfynhonnell y llun, Iwan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Wyn a Josh

Ar yr ail ddiwrnod, 28 Awst, sef dyddiad pen-blwydd Josh, mae Iwan a Huw yn gobeithio cerdded o Gei Connah i'r Rhyl, cyn cerdded o Rhyl i Lanfairfechan ar y dydd Sadwrn, ac o Lanfairfechan i Gaernarfon ar y dydd Sul.

"Mi fydd o'n heriol, a dwi ddim yn gwybod os ydi o'n syniad da bo' ni yn aros yn Rhyl nos Wenar bank holiday chwaith. Fydd angen lot o discipline!" meddai Huw.

"'Dan i'n gobeithio erbyn cyrraedd Llanfairfechan fydd y spirits yn uchal a dim ond un pwsh ola fydd hi wedyn."

Ifan Stead, Josh a Huw. Mae Ifan hefyd yn un o'r cerddwyrFfynhonnell y llun, Huw Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Stead, Josh a Huw. Mae Ifan hefyd yn un o'r cerddwyr

Un peth arall fydd yn gwneud y daith yn arbennig yw cychwyn ger cofeb er cof am Josh yn stadiwm newydd Everton, Hill Dickinson.

Eglurodd Iwan: "Pan 'nath Josh fynd yn haf 2023 ddaethon ni gyd at ein gilydd a chipio mewn i gael y plac 'ma.

"Adeg yna oedd yr Hill Dickinson yn cael ei adeiladu so oedd gynnon ni opsiwn i drio cael plac yna. Felly mi fyddwn ni'n dechra o'r plac fora' Iau, sy'n sbesial iawn."

Mae Huw ac Iwan yn cydnabod y bydd y daith yn un "emosiynol" dros ben iddynt, ond yn dweud y byddai Josh wrth ei fodd yn gweld ei wahanol ffrindiau'n cymdeithasu â'i gilydd.

Ychwanegodd Iwan: "Fydd Josh efo ni 100%. 'Dan ni'n cael digwyddiad weithia' lle 'dan i'n meddwl 'Dydi Josh ddim yma' a sylwi fod o ar goll.

"Mae lot wedi rhybuddio ni yn barod pan fyddwn ni yn dod i mewn i'r Oval ar y dydd Sul y bydd o'n eitha emosiynol. Dwi'n meddwl bod hynna yn iawn hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: