Beirniadu prifysgol am ddilyn cyfrif wnaeth gyhoeddi honiadau o ymosodiadau rhyw

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dad-ddilyn y cyfrif Cardiff Uni Banter bellach
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cyfeiriad yn yr erthygl hon at ymosodiadau rhyw allai beri gofid i ddarllenwyr
Mae Prifysgol Caerdydd wedi'u beirniadu ar ôl dilyn cyfrif ar Instagram sydd wedi cyhoeddi honiadau o ymosodiadau rhyw, yn ogystal â sylwadau misogynistaidd am fenywod.
Mae'r brifysgol bellach wedi dad-ddilyn y cyfrif Cardiff Uni Banter wedi pryderon gan fyfyrwyr am y cynnwys sydd wedi'i gyhoeddi ar y dudalen.
Ymhlith y cynnwys mae honiadau dienw am ymosodiadau rhyw, yn ogystal â sylwadau sy'n cynnwys iaith fisogynistaidd am fenywod.
Roedd un neges yn cynnwys cyfeiriad at ddyn yn cael rhyw gyda dynes tra'r oedd hi'n cael trawiad.
Mae peth o'r cynnwys ar y dudalen wedi'i rannu nifer o weithiau.

Mae Jennifer Taylorm Llywydd NUS Cymru, ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu'r sylwadau
Yn ôl Jennifer Taylor, Llywydd NUS Cymru, mae'r sylwadau'n "beryglus ac yn niweidiol".
Dywed Prifysgol Caerdydd nad yw trais rhywiol, aflonyddu rhywiol nag unrhyw fath o drais ar sail rhywedd yn "dderbyniol".
Fe ychwanegodd llefarydd bod dilyn y cyfrif "ddim yn golygu bod y brifysgol yn cymeradwyo'r cyfrif mewn unrhyw ffordd".
Mae Cardiff Uni Banter wedi cael cais am sylw.
'Normaleiddio agweddau misogynistaidd'
Mae'r cyfrif yn disgrifio ei hun fel lle ar gyfer "y cyfaddefiadau, 'memes', a'r 'banter' gorau yng Nghaerdydd", ac mae ganddo fwy na 14,000 o ddilynwyr.
Mae'n cyhoeddi cyffesion dienw gan fyfyrwyr am fywyd prifysgol, perthynas, rhyw a bywyd nos.
Cysylltodd Megan Elmer, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, â'r BBC ar ôl iddi godi pryderon am y cynnwys a'r ffaith bod y brifysgol wedi bod yn dilyn y cyfrif.
Dywedodd ei bod yn credu bod y cynnwys "yn cyfrannu at barhad o ddiwylliant treisio drwy normaleiddio agweddau misogynistaidd a thrafodaethau am drais rhywiol".

Mae Megan Elmer yn bryderus bod Prifysgol Caerdydd wedi dilyn cyfri Cardiff Uni Banter
Dywedodd Megan nad oedd hi'n gwybod os oedd yr honiadau dienw a gyhoeddwyd gan y cyfrif yn wir ond ei bod yn credu bod y deunydd yn codi cwestiynau am yr agweddau tuag at drais rhywiol o fewn y brifysgol.
Roedd hi'n arbennig o bryderus bod cyfrif Instagram swyddogol Prifysgol Caerdydd wedi bod yn dilyn Cardiff Uni Banter.
"Dwi eisiau gwybod os yw'r brifysgol yn ymwybodol o'r cyfrif a'i gynnwys, a yw wedi derbyn unrhyw adroddiadau neu bryderon yn ymwneud â'r cyfrif, a pham bod cyfrif Instagram swyddogol y brifysgol yn dilyn y dudalen," ysgrifennodd.
Mae'r brifysgol bellach wedi dad-ddilyn y cyfrif.

Mae Rebecca Rumsey o Time To Act wedi galw ar fyfyrwyr i roi'r gorau i ddilyn y cyfrif
Mae rhai myfyrwyr yn galw ar eraill i foicotio'r dudalen.
Mewn cynnwys arall, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, cafodd termau sarhaus fel "sluzzers" a "tarts" eu defnyddio i ddisgrifio menywod.
Dywedodd Rebecca Rumsey, 23, myfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyd-sylfaenwyr ymgyrch yn erbyn camymddwyn rhywiol y brifysgol, Time To Act, fod myfyrwyr wedi anfon sgrinluniau o'r cynnwys at y grŵp dro ar ôl tro.
"Fe wnaethon ni geisio cysylltu â'r dudalen, ond dydyn nhw'n dal heb ymateb," meddai.
Dywedodd Owain Sion, is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ar Dros Frecwast fore Gwener eu bod yn ymwybodol bod cynnwys y cyfrif dan sylw wedi mynd "lot mwy tywyll a difrifol".
"Dan ni mewn trafodaethau adeiladol iawn gyda'r brifysgol am y mater yma.
"Ond yn gyffredinol mae hyn yn profi bod mwy angen i'w wneud ar draws y campws i fynd i'r afael â thrais rhywiol, i fynd i'r afael â rhai agweddau.
"Mae hyn yn broblem, yn anffodus iawn, yn gyffredinol o fewn cymdeithas. Mae hyn yn digwydd yn y gweithle, mewn addysg, nid jyst ar y stryd. Ond un o'n blaenoriaethau ni fel undeb myfyrwyr eleni fydd gweithio efo'r brifysgol i fynd i'r afael â'r broblem yma.
"Yn anffodus, mae'r achos yma dwi'n meddwl jyst yn uwcholeuo faint o waith sydd gyda ni i'w wneud."
"Dwi'n meddwl beth ydy'r broblem efo'r achos yma ydy bod y syniad o bostio'n ddienw yn gwneud rhywun yn rhydd o unrhyw gyfrifoldeb," ychwanegodd.
"Mae gennym ni wasanaeth cyngor i fyfyrwyr sydd yn wasanaeth am ddim a hefyd yn wasanaeth di-duedd, ac annibynnol o'r Brifysgol a'r Undeb. Felly fysa ni'n awgrymu unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan yr achos yma i gysylltu."
'Nid jôc'
Mae Time To Act wedi galw ar fyfyrwyr i roi'r gorau i ddilyn y cyfrif.
Dywedodd Ms Rumsey fod yr ymateb wedi arwain at y cyfrif yn colli tua 2,000 o ddilynwyr.
"Mae llawer o'r cynnwys yn fisogynistaidd ac yn cynnwys agweddau sy'n ymwneud â diwylliant treisio, ac nid yw hynny'n ddigon da," meddai.
"Nid jôc yw hynny".
Dywedodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn ymwybodol o'r cyfrif a "natur bryderus y cynnwys" ond nad oedd y cyfrif yn gysylltiedig â'r brifysgol.
Pwysleisiodd llefarydd nad ydyn nhw'n gwybod pwy sy'n gyfrifol am y cyfrif.
"Nid jôc yn unig yw hyn. Fel prifysgol, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, parchus a chynhwysol lle mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel ac i gael eu trin ag urddas a pharch."
Dywedodd y llefarydd hefyd nad yw trais rhywiol, aflonyddu rhywiol nag unrhyw fath o drais ar sail rhywedd yn "dderbyniol" ac na fydden nhw'n "cael eu derbyn".
Ychwanegodd y brifysgol eu bod wedi derbyn sawl cwyn am y cyfrif, wedi codi pryderon am y cyfrif ac yn mynd i barhau i wneud hynny.
"Fe wnaethon ni ddilyn y cyfrif fel ein bod yn gallu monitro ac adrodd am yr hyn oedd yn cael ei bostio.
"Fe wnaethon ni yna ddad-ddilyn y cyfri wedi i Undeb y Myfyrwyr, staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd fynegi pryderon."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.