Dylan Lawlor: Sai hefo geiriau i ddisgrifio'r flwyddyn ddiwethaf

Dylan Lawlor (ar y dde) yn chwarae dros Gaerdydd Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Dylan Lawlor gydag Academi Caerdydd yn saith mlwydd oed

GanAled Williams
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae amddiffynnwr canol Caerdydd a Chymru, Dylan Lawlor yn cyfaddef ei bod hi'n anodd iddo gredu'r hyn y mae wedi ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'n 12 mis ers i'r chwaraewr 20 oed sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf yr Adar Gleision ac ennill ei gap cyntaf dros y tîm cenedlaethol.

"Sai hefo'r geiriau i ddisgrifio beth sydd wedi digwydd," meddai Lawlor ym mhennod ddiweddaraf y podlediad, Y Coridor Ansicrwydd.

"Mae'n pinch me moment bob tro dwi'n meddwl nôl am y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae wedi bod yn wych a dwi dal yn enjoio popeth a dyna'r peth mwyaf pwysig."

Ramsey yn 'ysbrydoliaeth i fi'

Mae Lawlor wedi dilyn ôl troed un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Cwm Rhymni yng Nghaerffili drwy chwarae i Gaerdydd a Chymru - Aaron Ramsey.

"Mae'n amlwg yn rywun oeddwn i yn gallu edrych lan i gyda'r ysgol ac yn dod o Gaerffili," meddai Lawlor.

"Odd o'n ysbrydoliaeth i fi yn tyfu lan ac yna ges i siawns i weithio gydag ef ac wedyn o dan fe pan oedd yn dechrau ei yrfa fel hyfforddwr.

"Oedd e'n wych ac mi oedd yn pasio pethau lawr i fi fel tips a pethau ro ni'n gallu ychwanegu i fy gêm.

"Pan mae'n dod gan rywun fel yna mae'n rhaid cymryd e."

Yn ystod cyfnod byr Ramsey fel rheolwr dros dro Caerdydd, fe roddodd gyfle i Lawlor chwarae mewn gêm gynghrair am y tro cyntaf ar ddiwedd tymor 2024-25.

Ac ei ymddangosiad yn erbyn Norwich oedd gêm olaf yr Adar Gleision yn y Bencampwriaeth cyn disgyn i Adran Un.

Mae Lawlor yn cydnabod y bu'n rhaid i'r clwb ailosod ac ymddiried mewn chwaraewyr ifanc fel ei hun.

Chwaraeodd 32 gwaith yn y gynghrair i dîm Brian Barry-Murphy y tymor diwethaf wrth iddynt sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth.

Dylan Lawlor yn rhoi cyfarwyddiadau i gyd-chwaraewyr tra'n chwarae dros GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Lawlor wedi ennill chwe chap dros Gymru ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Kazakhstan ym mis Medi 2025

Dim ond unwaith y mae wedi chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor hwn oherwydd anaf i'w ben-glin a ddioddefodd tra'n chwarae i Gymru ym mis Mehefin.

Doedd e ddim wedi gwella o'r anaf mewn pryd i fod yn rhan o gemau Cynghrair y Cenhedloedd oddi cartref ym Mhortiwgal a Denmarc na'r gemau cartref yn erbyn Norwy a Denmarc.

"Oedda nhw'n gemau anodd, roedden ni'n gwybod hynna pan ddaeth y draw allan," meddai Lawlor.

"Dwi'n credu fod pethau cadarnhaol a pethau 'da ni'n gallu adeiladu arno cyn mynd mewn i mis Tachwedd.

"Roedda ni'n gwybod y bydde nhw'n gemau anodd ond dyna beth 'da ni eisiau – i brofi ein hunain yn erbyn y timau gorau.

"I fod yn onest doeddwn i ddim yn y llun i fod yn rhan o'r camp.

"Dwi'n credu y peth pwysicaf i fi oedd jest meddwl am mis Tachwedd a trio bod yn ffit ar gyfer y gemau yn erbyn Portiwgal a Norwy."

Byddai bod yn ôl i chwarae yn erbyn gwledydd hynny yn rhoi cyfle iddo wynebu dau o gewri'r gêm fis nesaf.

Mae Lawlor yn cyfaddef yr oedd yn siomedig i golli allan ar wynebu Cristiano Ronaldo ac Erling Haaland yn y gemau diweddar.

"Croesi bysedd byddai'n gallu chwarae yn erbyn nhw ym mis Tachwedd a profi fy hun yn erbyn nhw," ychwanegodd.

Gwrandewch ar y cyfweliad llawn gyda Dylan Lawlor - Y Coridor Ansicrwydd