Llai o blant Cymru'n fepio ac ysmygu, yn ôl data newydd

Merch yn fepioFfynhonnell y llun, Getty Images
GanMeleri Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfraddau fepio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru yn gostwng am y tro cyntaf ers blynyddoedd, yn ôl data newydd.

Mae canlyniadau arolwg diweddar o fwy na 130,000 o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yn awgrymu bod mwy na 3,000 yn llai o bobl ifanc yn defnyddio fêps yn rheolaidd.

Yn y cyfamser, mae cyfran y bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 a ddywedodd eu bod yn fepio unwaith yr wythnos wedi gostwng o 7% yn 2023 i 5.2%.

Yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus, mae'r "gostyngiad sylweddol" yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad ar waharddiad fêps untro, ond mae gwir effaith y newid cyfraith yn dal i gael ei fesur.

Mae'r mwyafrif o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n gallu arwain at fod yn gaeth iddyn nhw.

Mae hefyd yn gyffur sy'n gallu cael effaith ar ganolbwyntio, y cof a'r gallu i ddysgu.

Ar draws pob grŵp oedran, mae data newydd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn awgrymu bod arferion fepio ac ysmygu yn newid ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.

Mae'r arolwg, sy'n cael ei gynnal bob dwy flynedd ers bron i ddegawd, yn awgrymu bod cyfran y disgyblion ym mlynyddoedd 7 i 11 a ddywedodd eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp wedi gostwng o 25.7% yn 2023 i 21% erbyn y llynedd.

Roedd nifer y rhai a ddywedodd eu bod yn ddefnyddwyr rheolaidd lawer is, ar 5.9% y llynedd.

Fe wnaeth canlyniadau'r arolwg awgrymu gostyngiad yn y nifer sy'n dweud eu bod yn ysmygu yn rheolaidd, gyda'r gyfradd bellach ar 1.8%.

Fêps untroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arbenigwyr, mae'r gostyngiad yn cyd-fynd â'r cyhoeddiad ar waharddiad fêps untro

Fis Mehefin y llynedd, fe gafodd fêps untro eu gwahardd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Fe gafodd rhai cyfyngiadau ar hysbysebu a gwerthu eu cyflwyno hefyd.

Yn yr haf eleni, fe gafodd ymgynghoriad ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â llywodraethau eraill y DU, oedd yn ystyried sut i wneud fêps yn llai deniadol i blant.

Roedd y cynigion yn cynnwys pecynnau plaen, cyfyngu ar enwau blasau, a chadw fêps y tu ôl i'r cownter mewn siopau.

Daisy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daisy'n dweud bod fêpio'n dal i fod yn broblem y tu hwnt i'r ysgol

Yn Ysgol Gyfun Llangynwyd ym Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, mae nifer y disgyblion sy'n fepio lawer yn llai, yn ôl athrawon a disgyblion.

Roedd y sefyllfa'n waeth yn y blynyddoedd wedi'r pandemig yn ôl Daisy, 15, sydd ym mlwyddyn 11 erbyn hyn.

Dywedodd: "O'dd pawb yn mynd i'r tai bach. O'ch chi'n mynd drwy'r coridor ar bwys y tŷ bach a roedd e'n drewi.

"Dw i'n credu ar y stryd, neu ar y bws, mae pobl dal yn [fepio], ond mae e wedi lleihau, a 'dw i ddim yn credu bod gymaint o bobl yn gwneud e yn yr ysgol nawr."

Harri a Nye
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer llai o ddisgyblion yn dod â fêps i'r ysgol erbyn hyn, yn ôl Harri a Nye o Ysgol Gyfun Llangynwyd

Dywedodd Tomos, 13, iddo gael "sioc" o weld cymaint yn gaeth i fêps pan ddaeth i'r ysgol uwchradd ddwy flynedd yn ôl.

"O'dd arogl melys pan o't ti'n mynd i'r tai bach, ond ma' hynny wedi gwella'n llwyr nawr," dywedodd.

"Ond ry'ch chi dal i weld plant oedran fi'n fepio yn y dref, pan fi'n cerdded trwyddo yn y nosweithiau. Mae'n syndod mawr, ma' bod yn gaeth i rhywbeth oedran fi yn wael iawn."

Ychwanegodd Nye, 15, fod pacedi bach o'r enw 'snus', sy'n cael eu rhoi yn y ceg ac sy'n aml yn cynnwys nicotin, hefyd yn dod yn fwy o broblem yn ddiweddar.

"Ma' snus yr un peth â fepio really, achos mae nictoin ynddo fe, mae'n addictive, ti'n gweld y pouches bach gwyn yna ar y stryd, a mewn partis mae e ar y llawr."

Dywedodd Harri, 14, fod pobl yn ifanc yn gweld y pacedi bach yn "haws i'w cuddio".

"Mae pobl yn meddwl bod e mwy iachus na fêps, ond dyw e ddim," meddai.

"Mae'n 'neud i bobl fod yn gaeth a mae e jest yn ffordd haws o guddio fe."

Mr Iwan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Iwan Jones yn dweud bod fepio yn un o'r heriau mwyaf sydd wedi wynebu'r ysgol dros y blynyddoedd diwethaf

Yn ôl Mr Iwan Jones, sy'n ddirprwy brifathro yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, fod yr ysgol wedi gorfod cyflwyno rheolau a chefnogi disgyblion.

"Roedd rhai dysgwyr yn mynd i ardaloedd penodol o'r iard yn ystod y dydd, amser cinio ac egwyl, mynd i'r tai bach, a disgyblion eraill yn adrodd bod fepio yn digwydd," meddai.

"Mae 'na sgil effeithiau, achos ar ddiwedd y dydd, mae bod yn gaeth i sylwedd fel fêp, yn cael yr un effaith ar addysg disgyblion.

"Mae o'n fy mhryderu fi bod 'na bobl ifanc sydd mor gaeth i sylwedd fel fepio, ond un peth sydd yn bwysig yw bod ein bod ni fel ysgol ar draws pob oedran, yn sicrhau ein bod ni'n addysgu'r plant yma fel rhan o'n cwricwlwm ni."

'Ni ddylai plant fod yn fepio'

Fe wnaeth yr ymgynghorydd Mary-Ann McKibben o Iechyd Cyhoeddus Cymru rybuddio na ddylai plant na phobl ifanc fod yn fepio o gwbl.

"Mae'r dystiolaeth yn glir, er bod fepio yn llai peryglus nag ysmygu ar y cyfan, mae risg, ac ni ddylai plant na phobl ifanc fod yn fepio," dywedodd.

"Gallwn weld bod y defnydd cyffredinol o nicotin bellach yn gostwng ymhlith plant a phobl ifanc, yn dilyn tuedd gynyddol barhaus a oedd yn cael ei yrru gan fepio."

Dywedodd bod gwaith swyddogion iechyd cyhoeddus mewn ysgolion wedi chwarae rhan, yn ogystal â'r newid yn y gyfraith.

Ychwanegodd: "Ar ôl nifer o flynyddoedd lle y gwelwyd cynnydd yn y defnydd o ddyfeisiau fepio gan blant a phobl ifanc, mae'r gostyngiad hwn yn lefelau fepio ac ysmygu yn cael ei groesawu'n fawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.