Dyn, 40, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Harbour WayFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harbour Way ar gau am 19 awr wedi'r digwyddiad brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Harbour Way yn y dref am 14:15 ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad fore Sul fe gadarnhaodd Heddlu'r De fod gyrrwr un o'r beiciau modur, dyn 40 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Fe wnaeth gyrrwr y beic modur arall ddioddef man anafiadau yn y digwyddiad.

Mae'r llu yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.