Rhyddhau dynes ar fechnïaeth ar ôl i gartrefi gael eu dinistrio mewn tân

Cafodd pum byngalo eu heffeithio gan y fflamau, meddai'r gwasanaeth tân
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 29 oed a gafodd ei harestio ar ôl i nifer o gartrefi gael eu "dinistrio'n llwyr" yn dilyn tân wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth gan yr heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn byngalo teras ar Hazlewood Road yng Nghefn-y-pant, Trecelyn, Sir Caerffili tua 16:00 ddydd Mercher diwethaf.
Fe gafodd pum byngalo eu heffeithio gan y fflamau, meddai'r gwasanaeth, gyda delweddau yn dangos o leiaf pedwar adeilad wedi'u dinistrio'n llwyr.
Y diwrnod canlynol cafodd dynes 29 oed ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol, gyda diofalwch ynghylch a oedd bywyd mewn perygl.
Cadarnhaodd Heddlu Gwent ddydd Llun bod y ddynes, o Drecelyn, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'w hymchwiliad barhau.
Dywedodd y llu fod pobl wedi gorfod gadael 32 o adeiladau oherwydd y digwyddiad, ond nad oedd unrhyw un wedi eu hanafu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
