Enwi'r ddau fu farw wedi gwrthdrawiad awyren fechan yng Ngwynedd

Yr heddlu yn parhau i ymchwilio fore Sadwrn
  • Cyhoeddwyd

Mae'r ddau ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd ddydd Gwener wedi cael eu henwi.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael adroddiadau tua 12:00 ddydd Gwener nad oedd yr awyren, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwyl.

Yn dilyn chwiliadau o'r awyr ac ar y ddaear gan nifer o asiantaethau cafodd yr awyren ei chanfod mewn "lleoliad anghysbell" ger Trawsfynydd.

Bu farw Sheetal Keton Swali, 55, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.

Bydd cwest i'w marwolaethau yn cael ei agor ddydd Mercher.

Mae'r corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, yr Air Accidents Investigation Branch (AAIB) yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Owain Llewellyn: "Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu'n rhan o'r digwyddiad trasig hwn.

"Byddwn yn cefnogi'r AAIB gyda'u hymchwiliad i sicrhau bod yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad hwn yn cael eu deall yn llawn.

"Mae hwn wedi bod yn ymgyrch chwilio heriol, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl asiantaethau a fu'n rhan ohoni am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad."

Dywed y Cynghorydd Elfed Powell Roberts bod lleoliad y gwrthdrawiad yn anghysbell iawn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Elfed Powell Roberts bod lleoliad y gwrthdrawiad yn anghysbell iawn

Fore Sadwrn ar Dros Frecwast dywedodd y Cynghorydd Elfed Powell Roberts, sy'n cynrychioli ardal Trawsfynydd, fod y gymuned leol wedi cael ei hysgwyd gan y digwyddiad.

"Mae'n dipyn o sioc bod hyn wedi digwydd. Mae teimladau yr ardal i gyd yn mynd at y teuluoedd a'r bobl sydd wedi colli bywydau yma. Mae o'n drasig iawn.

"Mae wedi bod yn dywydd mor braf, ac wedyn mae hyn wedi digwydd yn yr ardal... mae'n bechod ofnadwy."

Dywedodd fod y gwasanaethau achub wedi bod yn gweithio'n galed mewn amodau anodd.

"Dwi wedi bod yn siarad efo rhai o griw'r tîm achub mynydd, ac mae'n rhaid diolch yn fawr iawn iddyn nhw am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud. Maen nhw wedi bod allan yn cefnogi'r gwasanaethau.

"Mae'n ardal ofnadwy o anghysbell. Mae o jyst ar grib Foel Gyfangafolwen (Moel y Gyrafolen) yn Nhrawsfynydd, yn bell iawn o Lyn Trawsfynydd mewn ffordd. Mae'n lle anghysbell iawn, a deud y gwir."

Dywedodd fod natur anghysbell y safle wedi gwneud y gwaith achub yn llawer mwy heriol: "Mae'n gwneud o'n anodd ofnadwy. Does 'na ddim ffordd na dim byd yn agos at y lle felly mae mynd ato fo'n anodd iawn.

"Ond diolch iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud. Maen nhw'n gweithio'n dda fel tîm ac yn cydweithio efo'r gwasanaeth tân hefyd, oedd yn bresennol i drio helpu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig