'Gofalwch gael yswiriant teithio digonol' - mam merch o Lanrug gafodd ei hanafu yn Nhwrci

Roedd Greta a'i theulu ar seithfed diwrnod eu gwyliau yn Nhwrci, pan wnaeth y bws yr oedden nhw'n teithio ynddo golli rheolaeth a throi ar ei ochr
- Cyhoeddwyd
Mae mam i ferch o Lanrug yng Ngwynedd gafodd ei gwasgu a'i chaethiwo gan fws wnaeth droi drosodd ar wyliau tramor cynta'r teulu, wedi annog pobl i sicrhau bod ganddyn nhw yswiriant teithio digonol.
Dywedodd Emma Williams bod ei merch 12 oed, Greta wedi cael toriad i'w phelfis a'r sacrwm ar waelod ei hasgwrn cefn yn y digwyddiad yn Alanya, Twrci fis Gorffennaf, ar ôl i'r bws golli rheolaeth a throi ar ei ochr tra'n ceisio pasio cerbyd arall.
Roedd y gofal meddygol a'r trefniadau teithio i ddod â Greta yn ôl adref yn dod o dan bolisi yswiriant teithio'r teulu, ac mae Greta yn wynebu chwe mis o wella'n llwyr o'i hanafiadau.
"Mae'n werth talu ychydig bach yn ychwanegol [am yswiriant], hyd yn oed os na ydach chi ei angen o," meddai Emma.
Roedd y teulu wedi mynd am bolisi yswirant uwch gan ei fod yn "rhoi tawelwch meddwl yn fwy nag unrhyw beth".

Roedd Greta wedi bod yn mwynhau nofio tua awr cyn i'r ddamwain ddigwydd
Roedd Emma Williams, ei phartner Len, a'u merched Greta ac Eiry-ana sy'n 8 oed, yn mwynhau gwyliau yng ngwesty Etfalia Ocean, ac wedi bod ar nifer o deithiau yn ystod eu harhosiad yno.
Ar 22 Gorffennaf, ar seithfed diwrnod eu gwyliau, fe aethon nhw i'r Green Canyon, lle gwnaethon nhw nofio, cyn mynd i ymweld â rhaeadr a sŵ.
Roedd y teulu yn teithio i'r rhaeadr ar fws gyda dau deulu Prydeinig arall, ond wrth i yrrwr y bws geisio pasio cerbyd arall, fe "gollodd reolaeth a llithro i lawr dibyn".
Dywedodd Emma Williams i'r bws "droi sawl gwaith, ac fe fuon ni bron â tharo coeden."
"Fe allen ni fod wedi disgyn pellter sylweddol," meddai.
Dywedodd bod ffenestri'r bws yn rhai di-wydr, a bod Greta wedi mynd hanner ffordd drwy'r ffenest cyn i'r bws ddisgyn ar ei ochr a glanio arni.
"Roedd hanner y bws ar ei phelfis a'i chluniau, ond ei choesau a'i chorff y tu mewn i'r bws," meddai.
'Roedd yn gwbl erchyll'
"Roedd fy mhartner hefyd wedi mynd drwy'r ffenestr ac roedd eisiau achub fy merch ieuengaf, ac yn ei dal i fyny," meddai Emma.
"Fe ruthrodd pawb i geisio helpu Greta, a throi'r bws yn ôl i fyny.
"Dwi'n gwybod nad ydach chi i fod i wneud pethau fel yna, ond ymateb greddfol oedd troi'r bws yn ôl i'w ffordd gywir.
"Roedd yna blentyn 12 oed yn sownd oddi tano.
"Roedd fy merch 8 oed yn sgrechian ac yn meddwl bod Greta wedi marw, roedd hi'n panicio. Roedd yn gwbl erchyll."
Cafodd Greta ei rhyddhau o fewn pum munud, a chafodd ei chludo mewn ambiwlans i'r ysbyty, ynghyd â gyrrwr y bws.
Cafodd sgan CT a phelydr-X, a dywedodd Emma Williams bod y profiad yn "hynod o frawychus iddi hi".
"Roedd yn rhaid iddyn nhw dorri ei dillad i ffwrdd oddi arni, ac roedd yn rhaid iddi aros ar fwrdd pren am 24 awr heb allu symud o gwbl."
Mae'r BBC wedi gwneud cais am sylw gan y cwmni a drefnodd y daith fws, Tony Montana Excursions.

Cafodd Greta sgan CT a phelydr-X yn yr ysbyty yn Nhwrci
Ar ôl wyth diwrnod yn yr ysbyty, cafodd Greta ei chludo yn ôl i'r DU mewn ambiwlans awyr gyda'i mam i gael triniaeth bellach, gyda'r trefniadau yn dod o dan eu hyswiriant teithio, oedd wedi costio £106.
"Dywedodd y peilotiaid a'r meddygon bod yr hediad yn unig yn costio €50,000.
"Mae hynny'n frawychus, fe wnaeth yr yswiriant £106 dalu am hynna. Gall unrhyw beth ddigwydd."
Dywedodd Emma Williams bod cwmni Jet2, a werthodd y gwyliau iddyn nhw, wedi hepgor costau newid hediadau Len ac Eiry-ana yn ôl i'r DU.
Cafodd Greta ei chludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân a chafodd ffisiotherapi yno, ac mi fydd yn cael gwybod ar 2 Medi os y gall hi ddychwelyd i'r ysgol.
"Chaiff hi ddim gwneud llawer ar hyn o bryd, dim cerdded llawer sy'n biti mawr," meddai Emma.
"Mae ei ffrindiau hi wedi bod yn wych."
"Roedd hi wedi cael braw mawr pan ddigwyddodd o. Y cyfan roedd hi eisiau oedd sicrwydd gen i.
"Fe wnaethon ni geisio cadw mor bositif â phosib o dan yr amgylchiadau.
"Roedd hi'n eithriadol o gryf - dwi mor browd o'r ffordd y gwnaeth hi ymdopi.
"Mae'n rhybwth sy'n mynd i fod gyda ni am byth," ychwanegodd.
"Mae'n mynd i gymryd amser hir i ddod drosto.
"Roedden ni'n ceisio llenwi'r gwyliau gyda chymaint o brofiadau ac atgofion â phosib, a'i wneud yn hwyl.
"Tydyn nhw fyth eisiau mynd ar wyliau eto.
"Rydan ni am geisio mynd â nhw i rywle, nid ar drip mae'n debyg, i geisio tawelu eu meddyliau.
"Damwain eithriadol oedd hi, a tydi pethau fel hyn ddim yn digwydd fel arfer."
'Nid yr yswiriant rhataf ydi'r gorau bob tro'
Dywedodd Graeme Buck o Gymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain bod yswiriant teithio yn un o'r pethau y mae'n "rhaid ei gael wrth deithio dramor".
"Er bod y rhan fwyaf o wyliau yn pasio heb unrhyw broblemau, gall damweiniau neu ddigwyddiadau annisgwyl godi, a gall y gost o driniaeth feddygol neu deithio adref fod yn sylweddol.
"Nid yr yswiriant rhataf ydi'r gorau bob amser, ac mae'n bwysig peidio dewis yswiriant yn seiliedig ar y gost yn unig.
"Dylid edrych ar yr hyn sy'n gynwysiedig yn y polisi a gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y gwyliau, gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu chwaraeon gaeaf."
Straeon Perthnasol
Rhybudd yswiriant wedi anaf i Gymro yng Ngwlad Thai
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023
Menyw yn sownd mewn ysbyty yn Nhwrci wedi ffrae yswiriant
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.