Miloedd yn disgwyl canlyniadau TGAU dan drefn newydd

Gwenan yn eistedd ar flaen rhes o gadeiriau gwag yn gwisgo top smotiog du a gwyn a dal cwpan arian a tystysgrif cochFfynhonnell y llun, Gwenan
Disgrifiad o’r llun,

Wrth aros am ganlyniadau TGAU, mae Gwenan, 16, wedi bod yn cystadlu mewn sioeau gyda'r Clwb Ffermwyr Ifanc

GanBethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd miloedd o fyfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau TGAU fore Iau ar adeg o newidiadau mawr i gymwysterau.

Ar ôl cyflwyno TGAU newydd mewn rhai pynciau fis Medi diwethaf, fe fydd disgyblion blwyddyn 10 yn cael marciau am y cymwysterau hynny hanner ffordd drwy'r cwrs yn dilyn pryderon bod yna "bwsyau llethol" wedi bod ar staff a disgyblion.

Dywedodd prif fwrdd arholi Cymru, CBAC, na fyddai unrhyw ddisgyblion dan anfantais.

Y llynedd, roedd 62.5% o'r graddau yn A* i C, sef cynnydd o 0.3 pwynt canran o gymharu â ffigyrau 2024.

Fe fydd disgyblion hefyd yn derbyn canlyniadau cymwysterau galwedigaethol, ac fe fydd y Fagloriaeth yn cael ei dyfarnu am y tro olaf ar y lefel hon cyn cael ei disodli gan gyrsiau sgiliau newydd.

Mae Gwenan, 16, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ac wedi astudio coginio, celf a chymhwyster amaethyddiaeth ar ben y pynciau craidd TGAU.

Roedd yr adolygu yn her ond roedd yr athrawon "yn rili dda yn cefnogi chi ac yn dangos ffyrdd gwahanol i adolgu", meddai'r disgybl blwyddyn 11.

Ei bwriad yw mynd i'r chweched i astudio safon uwch ar ôl haf prysur o weithio mewn dwy swydd a helpu ar fferm y teulu.

Mae gweithgareddau'r haf wedi ei helpu i beidio poeni gormod am y canlyniadau.

"Fi'n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc a ni 'di bod yn brysur iawn a fi fy hunan wedi cystadlu yn y Sioe Frenhinol gyda'r clwb dros Ceredigion", meddai.

"Fi eitha' nerfus ond mae pawb yn mynd i fod yn nerfus amdanyn nhw."

Blwyddyn 10 i gael canlyniadau hefyd

Ond fe fydd disgyblion blwyddyn 10 hefyd yn cael canlyniadau dan y drefn newydd.

Cafodd TGAU newydd mewn pynciau gan gynnwys mathemateg, Cymraeg a Saesneg eu cyflwyno ym mis Medi 2025 fel rhan o newidiadau'r cwricwlwm yng Nghymru.

Mewn nifer o bynciau mae yna fwy o bwyslais ar asesu yn y dosbarth a llai ar arholiadau terfynol, a bydd y disgyblion cyntaf i ddilyn y cyrsiau hyn yn derbyn canlyniadau am rai unedau ddydd Iau.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd CBAC y byddai newidiadau i TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, TGAU Cymraeg Craidd a TGAU Astudiaethau Crefyddol er mwyn ymateb i bryderon ynghylch llwyth gwaith.

Fe fydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr sy'n dechrau eu TGAU ym mis Medi 2026, ond fyddan nhw ddim yn effeithio ar ddisgyblion presennol blwyddyn 10 sydd eisoes hanner ffordd drwy'r cwrs.

Miriam gyda gwallt hir beown golau yn gwisgo crys-T cochFfynhonnell y llun, Miriam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd astudio'r TGAU newydd ym mlwyddyn 10 yn gyffrous, meddai Miriam, er gwaetha'r holl waith cwrs

Un o'r rheiny yw Miriam, 15, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd bod gwneud cwrs newydd yn "gyffrous iawn" er gwaetha'r holl waith.

"Mae pob gwers ry'n ni wedi cael wedi bod ar waith cwrs neu ar gyfer arholiadau.

"Mae bendant wedi bod yn llawer o waith", meddai.

Ond ychwanegodd ei bod yn "falch" ei bod wedi ei gwblhau i gyd erbyn hyn.

"Mewn rhai pynciau dwi wedi gwneud 50% o'r gwaith cwrs felly dwi ddim yn poeni gormod [am flwyddyn 11] achos dwi ddim yn meddwl bydd y llwyth gwaith yn mynd yn fwy."

'Credu ei fod yn deg'

Dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr bwrdd arholi CBAC, eu bod wedi "gwrando'n astud ar sylwadau ysgolion ac arweinwyr colegau" ac wedi cyflwyno newidiadau.

"Rwy'n credu ei fod yn deg," ychwanegodd.

"Er bod newid bob amser yn her o ran ei reoli a sicrhau tegwch i ddysgwyr, rwy'n credu ein bod wedi dylunio cyfres o gymwysterau a fydd yn helpu dysgwyr i ddangos beth mae nhw'n ei wybod, ei ddeall, a'n dangos be' allan nhw wneud."

Dywedodd hefyd bod "angen bod yn glir na fydd unrhyw ddysgwr dan anfantais oherwydd mai hwn yw'r tro cyntaf i'r cymwysterau hyn gael eu cyflwyno".

"Byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod y broses yn deg ac yn gytbwys i bob dysgwr."

Yn gyffredinol, dywedodd fod canlyniadau'r haf hwn yn debygol o ddangos "sefydlogrwydd".

Cadi yn gwisgo crys-t brown a jeans du yn sefyll ar lanfa yn pwyso ar raff gyda'r mor a ffrynt Aberystwyth yn y cefndirFfynhonnell y llun, Cadi
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Cadi a'i ffrindiau yw dathlu canlyniadau TGAU ar y traeth

Disgybl arall sy'n cael canlyniadau blwyddyn 11 yw Cadi o Abersytwyth.

Mae'n falch eu bod wedi cael rhai o'r canlyniadau llynedd "a bod y pwysau ychwanegol ddim yna".

Roedd rhai arholiadau yn fwy anodd na'r lleill a "roedd e'n rhyddhad gallu beni nhw".

Nawr mae'n "teimlo'n eitha' cyffrous i gael gweld sut fi 'di neud, achos mae wedi bod yn cefn meddwl fi ers sbel".

Bwriad hi a'i ffrindiau yw mynd i'r traeth ar ôl cael y graddau, a'i gobaith yw mynd ymlaen i'r chweched a gwneud prentisiaeth neu gwrs prifysgol yn y pendraw ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Beth sydd wedi newid?

Mae pob cymhwyster TGAU wedi cael ei adolygu a'i ddiweddaru, gyda rhai pynciau newydd sbon fel dawns a TGAU cyfryngau digidol a ffilm yn cael eu cyflwyno.

Fe fydd y don nesaf o TGAU newydd yn cael eu cyflwyno gan gynnwys hanes a gwyddoniaeth - dau bwnc gafodd eu oedi ers llynedd.

Y cynllun gwreiddiol oedd peidio cynnig ffiseg, cemeg a bioleg fel cyrsiau ar wahân, ond mae hynny wedi cael ei ohirio tan o leiaf 2031.

Fe fydd cymwysterau galwedigaethol newydd hefyd yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2027.

Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Llinos Jones yn dweud bod y newidiadau mawr wedi bod yn anodd i ysgolion

Disgrifiodd un pennaeth ysgol y cyfnod fel un "heriol iawn i ysgolion", a oedd wedi "ychwanegu at y pwysau gwaith ar staff a disgyblion fel ei gilydd".

Dywedodd Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin, fod "cymaint o newidiadau wedi digwydd ar yr un pryd, ac mae hyn yn sicr wedi rhoi straen ychwanegol ar y system addysg, sydd eisoes dan bwysau sylweddol".

"Mae pryder arbennig ynghylch canlyniadau blwyddyn 10 eleni", meddai, "gan mai dyma'r garfan gyntaf i sefyll y cymwysterau newydd ac nid oes gennym yr un lefel o brofiad na sicrwydd ynghylch sut y bydd y canlyniadau'n edrych".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig