Teyrngedau i'r cynhyrchydd, cyflwynydd a'r actores Sara Ogwen Williams

Sara Ogwen WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r delweddau eiconig o Sara Ogwen Williams mewn ffrog Draig Goch fel rhan o ymgyrch yn 1999 i annog pobl i bleidleisio yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth y cynhyrchydd, cyflwynydd a'r actores Sara Ogwen Williams wedi brwydr yn erbyn canser.

Fe gadarnhaodd ei brawd, y darlledwr Rhodri Ogwen Williams, ei marwolaeth mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Iau gan ddweud: "Mae ein calonnau wedi torri."

Dywedodd S4C mewn datganiad ei bod "wastad yn llawn syniadau a chreadigrwydd ac wedi cyfrannu at raglenni a chyfresi ar S4C am flynyddoedd".

Enillodd hefyd gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Merthyr Tudful yn 1987.

Roedd hi'n ferch i'r cyflwynydd a'r actores Jenny Ogwen, a'r diweddar ddarlledwr Euryn Ogwen Williams.

Sara Ogwen Williams mewn dillad du yn gwenu wrth sefyll ger y ffrog Draig Goch yn Amgueddfa Sain Ffagan

Yn dilyn magwraeth yn Y Barri fe astudiodd Economeg ym Mhrifysgol Buckingham ac yna aeth i Efrog Newydd i astudio actio am ddwy flynedd.

Wedi cyfnod yn Llundain fe ddychwelodd i Gaerdydd gan weithio fel ymchwilydd yn adran addysg BBC Cymru.

A hithau'n gyfnod cyffrous yn sgil canlyniad Refferendwm 1997 fe chwaraeodd ran gofiadwy mewn ymgyrch i geisio annog pobl ifanc i bleidleisio yn etholiad cyntaf yr hen Gynulliad Cenedlaethol.

Mewn cyfres o luniau eiconig fe ymddangosodd mewn ffrog Draig Goch - dilledyn sydd erbyn hyn yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Aeth ymlaen i weithio i gwmni teuledu Boomerang am 12 mlynedd fel cynhyrchydd rhaglenni plant, ac yn fwy diweddar roedd yn uwch-gynhyrchydd gyda Little Bird Films.

'Sara oedd ein harwres'

Yn ei deyrnged ddydd Iau, dywedodd Rhodri Ogwen Williams: "Rydym wedi dryllio'n llwyr o orfod ffarwelio â'r chwaer, merch, mam, gwraig, ffrind a'r gydweithwraig orau y gallai unrhyw un obeithio ei chael.

"Sara oedd y person gorau oll. Roedd Sara'n hardd y tu mewn a'r tu allan. Sara oedd ein harwres, a dyna fydd hi i ni am byth.

"Gymaint yw ei gwaddol nes y bydd yn parhau i ddylanwadu ar bawb oedd yn ddigon ffodus i'w chyfarfod.

"Sara, ti yw'r gorau, fe fyddwn ni gyd ar goll hebddot ti, ond fe fyddi di 'da ni bob dydd, fel mae Dad.

"Diolch i chi oll am eich cariad a chefnogaeth gydol brwydr ddewr Sara â chanser. Fe frwydrodd Sara â chryn urddas."

Apeliodd ar ran y teulu am gyfnod "i ddod i delerau â cholli Sara" gan ychwanegu y bydd modd "maes o law, i ni gael cysur o fod gyda chi i rannu ein hatgofion gwych amdani".

Sara Ogwen Williams yn y ffrog Draig Goch o flaen panel enfawr yn annog pobl i bleidleisio yn yr etholiad cyntaf wedi datganoliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sara Ogwen Williams yn y ffrog Draig Goch o flaen panel enfawr yn annog pobl i bleidleisio yn yr etholiad cyntaf wedi datganoli

Mewn datganiad ar ran S4C, dywedodd y Prif Swyddog Cyfathrebu, Llion Iwan: "Roedd Sara yn berson oedd wastad yn llawn syniadau a chreadigrwydd ac wedi cyfrannu at raglenni a chyfresi ar S4C am flynyddoedd.

"Byddwn yn colli y bwrlwm afieithus a'r gwerthoedd cynhyrchu roedd yn cyfrannu i'r cynnwys yn gyson, gyda'i chyfres olaf wedi'i darlledu ond ychydig fisoedd yn ôl.

"Cydymdeimlad dwys gyda'i phlant Soffia a Gabriel, ei brawd Rhodri a'i mam Jenny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig