Ysgol a sefydlwyd gan Charlotte Church wedi gweithredu heb ganiatâd cynllunio

Charlotte ChurchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Charlotte Church The Awen Project gyda'i gŵr, Jonathan Powell, yn 2019, gan obeithio "trawsnewid addysg" i blant

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol awyr agored a gafodd ei sefydlu gan y gantores Charlotte Church wedi methu â sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer safle yr oedd wedi bod yn ei ddefnyddio, a hynny oherwydd pryderon amgylcheddol.

Fe wnaeth The Awen Project agor yn 2024, heb ganiatâd cynllunio, mewn coedwig ar hen fferm foch yng Ngwenfô, Bro Morgannwg.

Cafodd cais ôl-weithredol yn Hydref 2025 am ganiatâd cynllunio ei wrthod gan gorff Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) Llywodraeth Cymru.

Cododd y cyngor bryderon ynghylch y sŵn, yr effaith ar drigolion, a'r peryglon i gerddwyr oherwydd diffyg lleoedd parcio.

Dywedodd hefyd nad oedd y prosiect wedi dangos sut y byddai'n "gwarchod ac yn gwella seilwaith gwyrdd".

Dywedodd The Awen Project na fyddai'n cau.

"Yn syml, rydyn ni wedi symud ymlaen o dir oedd dros dro - sef y model rydyn ni'n gweithredu," meddai'r ysgol.

Ychwanegodd nad yw Charlotte Church wedi bod yn rhan o'r prosiect ers peth amser.

'Pryderon am gynaliadwyedd'

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant "lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hannog i fod yn nhw eu hunain ac i ddilyn eu hangerdd fel cyfranogwyr gweithredol mewn cymuned ddemocrataidd".

Mae mynediad i'r ysgol am ddim, ac mae'r sefydliad yn derbyn rhoddion.

Roedd wedi'i leoli'n wreiddiol yng Nghwm George a Choed Casehill, ger Dinas Powys, gyda chaniatâd gan Goed Cadw.

Ond yn 2023 fe wnaeth yr elusen ddod â'r cytundeb i ben wedi "toriadau niferus" o'r caniatâd a roddwyd, a oedd yn "codi pryderon iechyd a diogelwch" i "ymwelwyr a bywyd gwyllt".

Mewn ymateb, cyhoeddodd y prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi gwneud eu "gorau glas i achub" y bartneriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg fod y cais wedi'i wrthod oherwydd "pryderon am gynaliadwyedd" y safle a'r "effaith bosib ar gymdogion".

Roedd hefyd "diffyg tystiolaeth i ateb pryderon am yr effaith bosib ar fioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol", meddai.

Cadarnhaodd PCAC eu bod wedi derbyn apêl, ond dywedodd nad oedd dyddiad wedi'i bennu ar gyfer y gwrandawiad.

Cywiriad 12 Awst 2026: Cafodd yr erthygl ei diweddaru i'w gwneud yn eglur nad yw The Awen Project yn cau, wedi i fersiwn gynharach o'r erthygl awgrymu y gallai orfod gwneud hynny. Ychwanegwyd datganiad gan y prosiect yn dweud eu bod wedi symud i safle newydd ac nad yw Ms Church wedi bod yn rhan o'r ysgol ers peth amser.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig