Albania yr her nesaf i Gymru wrth anelu at Gwpan y Byd

Euro 2025 oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae mewn prif gystadleuaeth
- Cyhoeddwyd
"Mae hi mor bwysig ein bod ni'n adeiladu ar hyn."
Dyna eiriau cyn-gapten Cymru, ac is-lywydd presennol UEFA, Laura McAllister ar ôl Euro 2025.
Mi oedd yr haf hwnnw yn Y Swistir y llynedd yn un eiconig yn hanes pêl-droed merched yng Nghymru.
Cyrraedd un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, a chwarae yn erbyn rhai o dimau a chwaraewyr gorau'r byd.
Felly sut mae mynd gam yn well? Wel yn syml - cyrraedd Cwpan y Byd.
A dros y misoedd nesaf mae gan y tîm gyfle i wneud hynny, a chreu mwy o hanes.
Mae Casi Gregson, 18 oed, yn gobeithio ennill ei chap cyntaf dros Gymru
Y daith hyd yn hyn
Y newyddion da ydi fod Cymru wedi llwyddo i orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol.
Mae hynny'n golygu llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail-gyfle, ond mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r llwybr yna yn un hawdd.
Mi fydden nhw'n wynebu Albania dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol, ac os bydden nhw'n fuddugol mi fydden nhw wedyn, fwy na thebyg, yn chwarae'n erbyn Norwy yn y rownd derfynol.
Mae Norwy yn un o gewri Ewrop yng ngêm y merched ac yn dîm sydd wedi ennill Cwpan y Byd a'r Euros yn y gorffennol.
Ond un cam ar y tro - mae angen curo Albania i ddechrau, gyda'r cymal cyntaf i gael ei chwarae yn Shkodar ar ddydd Gwener, 9 Hydref.

Rhiannon Roberts yn sgorio wrth i Gymru ennill 1-0 yn Albania yn gynharach eleni
Mae Cymru wedi curo Albania ddwywaith yn barod yn y rowndiau rhagbrofol gan fod y ddwy wlad yn yr un grŵp.
Mi oedd 'na fuddugoliaeth gyfforddus o 4-0 ar Y Cae Ras yn Wrecsam, ond mi oedd pethau lot agosach yn y gêm oddi cartref gyda thîm Rhian Wilkinson yn ennill o 1-0.
Yn amlwg mi fydd hynny'n rhoi hyder i Gymru cyn y gemau nesaf - ond mae'n bwysig peidio cymryd dim byd yn ganiataol.
Mae Albania yn dîm sydd wedi gwella lot yn ddiweddar, ac yn eu dwy gêm ddiwethaf fe lwyddon nhw i gael gêm gyfartal wych 1-1 oddi cartref yn Y Weriniaeth Tsiec cyn ennill yn hawdd o 5-2 gartref yn erbyn Montenegro.
"Mae gymaint yn y fantol. Maen nhw'n gemau ail-gyfle felly mae'r wobr ar y diwedd yn anferth," yn ôl cyn-gapten Cymru Kath Morgan.
"Os ti'n edrych ar restr detholion y byd mae Cymru lot yn uwch na Albania.
"Mae teithio'n gallu bod yn anodd, mae'n gallu effeithio ar y chwaraewyr. Ond fi wir yn credu y bydd y merched wedi dysgu o'r gorffennol ac y bydden nhw'n sicrhau'r fuddugoliaeth yn ddigon hawdd."
Anafiadau
Y brif broblem i Gymru cyn y ddwy gêm yn erbyn Albania ydi anafiadau.
Mi fydden nhw heb sawl chwaraewr pwysig gan gynnwys Ceri Holland, Rhiannon Roberts, Hayley Ladd, Olivia Clark a Ffion Morgan.
Rhyngddyn nhw mae'r bump yna wedi ennill bron i 350 o gapiau. Felly ydi Cymru yn gallu ymdopi heb gymaint o chwaraewyr profiadol?
"Wrth gwrs y bydden ni'n colli'r chwaraewyr sydd ddim yma," yn ôl capten Cymru Angharad James.
"Ond mae'r grŵp o ferched sydd yma yn barod i roi popeth mewn i'r gêm.
"Mae'r garfan yn un gref, mae 'na rhwng 35 a 40 o chwaraewyr ar gael i Rhian [Wilkinson] y dyddiau yma.
"Da ni wedi paratoi ar gyfer sefyllfa fel hyn, a 'da ni'n dod yma i ennill."

Mae 'na bosibilrwydd y bydd Cymru yn wynebu eu cyn-reolwr Gemma Grainger, sydd bellach yng ngofal Norwy, yn y rownd derfynol
Norwy a Rwmania fydd yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y rownd gynderfynol arall yn yr un llwybr â Chymru ac Albania, ac mae disgwyl i Norwy ennill yn hawdd.
Felly mae 'na bosibilrwydd cryf y gwelwn ni Norwy a Chymru yn y rownd derfynol.
Digwydd bod, cyn-reolwr Cymru Gemma Grainger sydd yng ngofal Norwy y dyddiau hyn.
Daeth Grainger yn agos iawn at arwain Cymru i Gwpan y Byd 2023 - gan golli yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle yn erbyn Y Swistir.
A hyd yn oed os y bydd Cymru yn cael y gorau o Grainger a Norwy, efallai nad hynny fydd diwedd y stori.
Bydd wyth rownd derfynol - gyda saith tîm yn sicrhau eu lle ym Mrasil - ac un tîm buddugol (y detholyn isaf ar restr detholion y byd) yn gorfod chwarae mewn cystadleuaeth gyda thimau o gyfandiroedd eraill am le yn y rowndiau terfynol.
Mae hi'n broses gymleth - ond yr unig beth y gall Cymru ei wneud ydi cymryd un gêm ar y tro - gan ddechrau gydag Albania.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.