14 mlynedd o garchar i ddyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth

Michael DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Davies wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn deall pam ei fod wedi tagu ei wraig

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth yn eu gwely wedi ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar.

Cafodd Michael Davies, 58, o Gefn Cribwr, ei ganfod yn euog o lofruddio ei wraig, Tracey Davies, 48, ar 18 Ebrill 2025.

Roedd wedi pledio'n euog yn flaenorol i ddynladdiad, ond roedd wedi gwadu llofruddiaeth.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Daniel Williams wrth Davies mai'r "gwir yw bod dy ddicter wedi deillio o ansicrwydd" a bod dy "salwch meddwl wedi dy drechu ac fe wnes di dagu Tracey i farwolaeth".

Cafodd yr heddlu eu galw i Gefn Cribwr ar noson 18 Ebrill 2025 yn dilyn pryderon am les dau berson.

Fe wnaethon nhw ddod o hyd i gorff Tracey Davies, ac fe gafodd Michael Davies ei ganfod yn anymwybodol ac yn gwaedu gerllaw.

Cafodd Davies ei gludo i'r ysbyty ac fe gafodd ei gyhuddo yr wythnos ganlynol o lofruddio ei wraig.

Clywodd y llys yn ystod yr achos ei fod yn genfigenus bod ei wraig yn gweithio gyda chydweithwyr gwrywaidd ac yn amau, yn anghywir, ei bod am ei adael. Roedd hefyd mewn dyled o £30,000.

Tracey Davies Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd plentyn Tracey Davies mewn datganiad eu bod yn "dal i ddioddef hunllefau a thrawma hyd heddiw"

Roedd Davies wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn deall pam ei fod wedi tagu ei wraig a bod ei feddwl "wedi torri".

"Does gen i ddim syniad beth o'n i'n ei wneud, do'n i ddim yn deall beth oeddwn i'n ei wneud. Doedd gen i ddim cysylltiad gyda fy nwylo," meddai.

"Ro'n i'n gwybod ei fod yn anghywir."

"Doedd dim cynllun, dim meddwl, do'n i methu stopio'n hun. Dwi'n cofio Tracey yn symud ac yn gafael yn fy mreichiau."

Ar ôl lladd ei wraig, cymerodd orddos a thrywanu ei hun yn ei wddf a'i frest. Cafodd y ddau eu darganfod yn ddiweddarach gan aelod o'r teulu a pharafeddygon.

Ym mis Medi, daeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r casgliad fod Davies yn euog o lofruddiaeth.

'Wnaeth mam ddim byd ond caru Michael'

Cafodd datganiadau ar ran teulu Tracey Davies eu darllen yn y llys fore Gwener.

Dywedodd ei phlentyn nad yw'r teulu "erioed wedi gallu dod i delerau gyda cholli Mam" a'u bod ar hyn o bryd yn "derbyn cwnsela ar gyfer trawma a PTSD".

"Do'n ni methu gwneud pethau arferol am bedwar mis," yn dilyn ei marwolaeth, meddai, gan fod pobl yn "ceisio dyfalu'r hyn ddigwyddodd, ac yn dod atom yn y siopau".

"Dwi'n dal i ddioddef hunllefau a thrawma hyd heddiw."

Ychwanegodd y datganiad na fyddai dedfryd y llys "fyth yn adlewyrchu'r ddedfryd sydd arnom ni fel teulu - gorfod byw ein bywydau heb ein mam.

"Wnaeth Mam ddim byd ond caru a gofalu am Michael, hyd yn oed yn ei dyddiau olaf."

Cafodd Ms Davies ei disgrifio fel "mam ymroddedig" a "chwaer annwyl".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.