Pryderon amgylcheddol dros gynllun cebl 2,500m i gysylltu fferm solar

Fferm Solar Porth Wen
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl datblygiad solar eisoes wedi'u codi ym Môn, gan gynnwys yr un yma ym Mhorth Wen yng ngogledd yr ynys

GanGareth Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i newid llwybr cebl trydan tanddaearol 2.5km er mwyn cysylltu datblygiad ynni solar gyda'r grid, wedi arwain at bryderon am yr effaith bosib ar fywyd gwyllt.

Brynhawn Mercher bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Môn yn ystyried cais llawn i osod ceblau mewn cysylltiad â Pharc Solar Traffwll ar dir ger Llanfihangel yn Nhowyn.

Cafodd ddatblygiad Fferm Solar Traffwll ei gymeradwyo yn 2023 gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, er gwaethaf pryderon lleol.

Ond er cafodd llwybr ar gyfer y ceblau ei ganiatáu y bryd hynny, erbyn hyn mae'r datblygwyr wedi cyflwyno llwybr o'r newydd y maen nhw'n dweud y byddai'n cymryd llai o amser i'w osod a llai o aflonyddwch i bobl leol.

Byddai'r llwybr diwygiedig yn ymestyn o gyrion gogleddol Llanfihangel yn Nhowyn tua'r dwyrain, tuag at bentref Bryngwran, gyda'r ceblau mewn ffos rhwng 40cm a 70cm o led ac oddeutu un metr o ddyfnder.

Byddan nhw'n cael eu gosod yn union i'r de o'r A55 a ger a Afon Crigyll.

Ond mae'r cynllun eisoes wedi bod yn destun pryder gan un cyngor cymuned yn yr ardal leol.

Yn eu hymateb i'r ymgynghoriad dywedodd Cyngor Cymuned Bryngwran eu bod nhw'n gwrthwynebu'r cais oherwydd "nad oes asesiad archeolegol digonol wedi'i gynnal i ddangos na fyddai effaith andwyol ar asedau treftadaeth tanddaear".

Protest fferm solar Traffwll
Ffynhonnell y llun, Hywel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd caniatáu Fferm Solar Traffwll yn destun peth gwrthwynebiad yn yr ardal leol

Codwyd pryderon hefyd ynglŷn ag effeithiau ecolegol posib, gan gynnwys tarfu ar gynefinoedd a ddefnyddir gan fywyd gwyllt a rhywogaethau sy'n cael eu gwarchod.

Byddai'r gwaith cloddio, yn eu barn nhw yn "niweidio systemau gwreiddiau, tarfu ar goridorau ecolegol a chreu cynefinoedd darniog", gan arwain at "effeithiau andwyol ar fioamrywiaeth a symudiad rhywogaethau".

'Yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol'

Roedd pryderon hefyd wedi eu codi nad oes "ystyriaeth annigonol" wedi ei rhoi i "botensial archeolegol y safle", yn enwedig o ystyried darganfyddiadau archeolegol blaenorol yng nghoridor ehangach yr A55, a'r "effeithiau posibl ar adar sy'n bridio".

Yn ôl datblygwyr y fferm solar, cwmni Low Carbon, bydd y datblygiad 35 MW yn golygu gorchuddio tua 150 acer o dir ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog gyda phaneli.

Yn ôl y cwmni bydd y trydan a fydd yn cael ei gynhyrchu gyfystyr â phweru 11,630 o gartrefi bob blwyddyn, gan hefyd arbed 7,161 tunnell y flwyddyn o CO2.

Map o'r ceblauFfynhonnell y llun, Dogfennau'r cyngor
Disgrifiad o’r llun,

Byddai llwybr y ceblau yn agos i briffordd yr A55 a phentrefi Bryngwran a Llanfihangel yn Nhowyn

Mae swyddogion cynllunio Cyngor Môn yn argymell y dylid caniatáu'r cais, gan nodi yn eu hadroddiad: "Gan fod y cynnig yn cynnwys isadeiledd sy'n gysylltiedig â'r fferm solar y rhoddwyd caniatâd iddi a'r rhwydwaith trydan lleol, ystyrir bod yr egwyddor o ddatblygu yn dderbyniol am yr un rhesymau a gyfiawnhaodd y cam o gymeradwyo cynllun ehangach Parc Solar Traffwll.

"Bydd amodau'n cael eu hatodi i unrhyw ganiatâd a roddir i sicrhau bod y tir yn cael ei adfer yn briodol ar ôl gosod y cebl tanddaear, ynghyd â chyflwyno cynllun datgomisiynu yn unol â darpariaethau datblygiad cysylltiedig Parc Solar Traffwll."

Mae disgwyl penderfyniad pan fydd pwyllgor cynllunio'r ynys yn cyfarfod brynhawn Mercher.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol