Cyfraddau hunanladdiad uwch mewn ardaloedd hen byllau glo - ymchwil

Pwll gloFfynhonnell y llun, Getty Images
GanIolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i alcohol, cyffuriau neu hunanladdiad hyd at 53% yn uwch mewn ardaloedd hen byllau glo, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, mae cyfradd y 'marwolaethau anobaith' hynny yn dystiolaeth o'r "anghydraddoldebau iechyd" sy'n parhau mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol.

Rhybuddiodd un o awduron yr ymchwil y gallai'r un problemau godi i'r gweithlu yn oes deallusrwydd artiffisial, os nad yw gwersi'n cael eu dysgu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r ymchwil, a'u bod yn ceisio atal marwolaethau a chynnig cymorth drwy fentrau fel Tegwch Iechyd Cymru.

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Geraint Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Yr astudiaeth yma ym Mhrifysgol Bangor yw'r cyntaf o'i fath i gysylltu 'marwolaethau anobaith' gydag ardaloedd pyllau glo

Yn ôl data'r ymchwil, oedd yn seiliedig ar farwolaethau rhwng 2015 a 2023, roedd cyfraddau marwolaethau o ganlyniad i alcohol 27-52% yn uwch mewn ardaloedd gyda hanes o byllau glo.

Roedd cyfraddau gwenwyno o ganlyniad i gyffuriau yn ardaloedd y pyllau glo 23-53% yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Cymru a Lloegr, tra bod cyfraddau hunladdiad 7-19% yn uwch.

Hyd yn oed ar ôl addasu'r data i ystyried ffactorau eraill yn ymwneud â thlodi, roedd y cyfraddau i gyd dal yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

"Mae'n drist gweld pa mor barhaus yw'r anghydraddoldebau iechyd hyn," meddai Dr Christopher Saville, un o awduron yr ymchwil.

"Ar adeg pan rydym siarad am ddeallusrwydd artiffisial yn achosi ton newydd o ddad-ddiwydiannu, mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o'r tro diwethaf ac yn osgoi rhai o'r camgymeriadau a wnaed."

Dyma yw'r astudiaeth cyntaf o'i fath i gysylltu 'marwolaethau anobaith' gydag ardaloedd pyllau glo.

Ychwanegodd Dr Saville wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C ei bod hi'n bwysig fod llywodraethau'n barod am y "sioc enfawr" allai godi o effaith posib AI ar y gweithlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "croesawu'r astudiaeth hon a'i chanfyddiadau pwysig".

Ychwanegodd eu bod yn "gweithio i atal marwolaethau ac i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt", gan gynnwys drwy fentrau fel Tegwch Iechyd Cymru i gefnogi cymunedau a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig