'Parchwch ymwelwyr eraill trwy ymuno â'r ciw i gopa'r Wyddfa'
Mae fideos fel yr un yma o Marc Screeton wedi codi gwrychyn rhai pobl ar gyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae ymwelwyr â'r Wyddfa yn cael eu hannog i barchu pobl eraill trwy ymuno â'r ciw i gyrraedd y copa yn hytrach na'i anwybyddu.
Mae fideos diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos sawl ffrae rhwng pobl sy'n aros mewn rhes ac unigolion sy'n eu pasio i flaen y ciw.
Fe gyhoeddodd ddyn o Fanceinion fideo ohono'n cael ei heclo wrth iddo fynd heibio'r ciw.
Yn y fideo mae Marc Screeton yn dweud: "Dychmygwch giwio ar fynydd? Dim peryg!"
Yr Wyddfa: Galw ar gerddwyr i 'barchu'r mynydd'
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
Llanberis 'yn rhemp' gyda cherddwyr yn ganol nos
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Mae'r tywydd poeth diweddar wedi denu torfeydd unwaith yn rhagor yr haf yma i fynydd uchaf Cymru, ond mae ei boblogrwydd cynyddol wedi arwain at oedi wrth i bobl nesáu at y copa.
Erbyn hyn mae ciwiau'n gyffredin ar y stepiau carreg at y piler triongli ble mae pobl yn tynnu lluniau a fideos o'r copa.

Mae'r ciwiau'n debygol o barhau wrth i'r Wyddfa ddenu cymaint o ymwelwyr bob blwyddyn
Dros y blynyddoedd, mae yna adroddiadau bod ymwelwyr wedi aros dros awr i gyrraedd y piler, sy'n 1,085m (3,560 troedfedd) o uchder.
Ond mae rhai pobl wedi cael eu corddi wrth i unigolion eraill osgoi'r ciw i gyrraedd y copa yn gynt.
Mae dau heiciwr a aeth heibio'r ciw i'r copa yn ystod her elusennol wedi disgrifio'u dicter wedi i bobl oedd yn y ciw eu bwio.
Fe gafodd Jamie Richardson, 32, a Richard Thiedeman, 34, eu gwawdio wrth daro'r piler triongli i nodi eu bod wedi cwblhau'r her.

Abbie Fidgett, Carl Lynch a Lucy Taylor - tri o'r ymwelwyr ar gopa'r Wyddfa yr wythnos hon
Tra bod gan rai resymau dilys dros fynd heibio cerddwyr eraill ar Yr Wyddfa, cymysg yw'r teimladau ymhlith ymwelwyr ynghylch osgoi ciwio.
Dywedodd Lucy Taylor: "Dwi'n meddwl y dyliech chi giwio achos mae [peidio] yn eitha' peryglus ac os ydy pawb yn trio mynd i'r top dydy o ddim yn saff."
Ategodd Abbie Fidgett: "'Dach chi wedi gwneud y gwaith caled fel gall pawb gyrraedd y copa."
Ond ym marn Tina Millard o West Bromwich "ddyliech chi ddim gorfod ciwio... ddyliech chi jest gallu mynd i'r top a dyna fo.
"Dydan ni ddim yn Alton Towers i fynd ar reid. Mynydd ydy o - mae o i bawb."
Awgrymodd Carl Lynch o Dunstable, Sir Bedford bod angen system ble mae pawb yn "mynd i'r top, dau funud a symud ymlaen ar gyfer pawb arall - mae mor syml â hynny".

Mae gofyn i bobl fod yn ystyriol wrth fynd i'r piler triongli, medd y warden Alun Jones
Gydol yr haf mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn annog ymwelwyr i ddilyn y cod cefn gwlad gan gau giatiau, mynd â'u sbwriel gartref gyda nhw a lleihau'r risg o danau gwyllt.
Maen nhw hefyd yn cynghori pobl i barchu eraill trwy aros eu tro ar gopa'r Wyddfa.
"Does dim rhaid mynd i'r trig point lle mae'r ciw'n dechrau," meddai'r warden ardal, Alun Jones.
"Dach chi'n cyrraedd y copa pan 'dach chi'n dod i adeilad y copa [Hafod Eryri].
"Ond os ydach chi eisio mynd i'r trig point, rhaid i chi fod yn fwy ystyriol a pheidio osgoi'r ciw."

Dyma ble mae pawb yn awyddus i gyrraedd, boed wedi ciwio'n amyneddgar ai peidio - y piler triongli ar y copa
Mae Johann Go - athronydd ac athro cynorthwyol moeseg yng Ngholeg Prifysgol Llundain - wedi ysgrifennu'n helaeth ar foeseg ciwio, hyd yn oed pan nad oes rhaid gwneud.
"Mae fel math o gyfamod cymdeithasol, ond mae yn aml ond ar lafar," meddai.
"Felly dyw e ddim yn fater bod yn rhaid i mi giwio, ond o weld bod eraill eisoes wedi ymatal, pe taswn i ddim yn ciwio fe fydden i'n rhoi neges 'wfft i chi' a bod fy amser i yn fwy gwerthfawr."
Gan fod gymaint yn trysori'r cyfle am lun unigryw o gopa mynydd uchaf Cymru, a'r ciwiau'n annhebygol o ddiflannu'n fuan, mae'n ymddangos y bydd gofyn i'r rhai sy'n eu hanwybyddu fod yn barod i gael eu herio gan ymwelwyr amyneddgar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill

