Dyn yn pledio'n euog ar ôl i dacsi gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55

Disgrifiad,

Roedd fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tacsi wedi ei stopio gan yr heddlu ar yr A55

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 31 oed wedi pledio'n euog i nifer o droseddau ar ôl i'r heddlu stopio tacsi a oedd yn teithio ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.

Yn Llys Ynadon Caernarfon fore Iau fe wnaeth Darragh O'Grady, 31, gyfaddef achosi anaf difrifol i seiclwr drwy yrru'n beryglus, cymryd cerbyd heb ganiatâd, a methu â darparu sampl i'r heddlu.

Roedd wedi dwyn tacsi o Gaergybi, cyn taro'r seiclwr ac yna gyrru'r ffordd anghywir ar hyd y ffordd ddeuol nos Lun.

Mae O'Grady, o Ddulyn, hefyd wedi pledio'n euog i ladrad a thwyll drwy gamgynrychiolaeth ar ôl gwario £217 ar ffôn a cherdyn banc yr oedd wedi cael gafael arnyn nhw ar ei groesiad fferi o Iwerddon.

Clywodd y llys y bu'n rhaid cludo'r seiclwr, Richard Owen Roberts, i ysbyty yn Stoke wedi iddo ddioddef rhwyg i'w iau, anaf sylweddol i'w ben-glin, a thorri dwy asen, ar ôl cael ei daro yng Nghaergybi.

Dywedodd llygad dyst wrth yr heddlu bod O'Grady yn gyrru ar gyflymder o tua 80mya ar y pryd, wedi iddo ddwyn y tacsi gan gwmni Tacsi Zoe o du allan i westy Travelodge y dref.

Cafodd y tacsi ei stopio ar yr A55 tua'r gorllewin rhwng Rhosneigr a Rhostrehewfa wedi i'r heddlu fyrstio teiars y cerbyd ac fe gafodd O'Grady ei arestio.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 18 Medi, ac fe gafodd rybudd y byddai'n wynebu "cyfnod sylweddol o garchar".

Dywedodd ei fargyfreithiwr bod gan O'Grady sgitsoffrenia, a bod ganddo "frith gof" yn unig o'r croesiad o Iwerddon, a "dim cof" o'r digwyddiadau ym Môn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig