'Mae bywyd yn fyr' - Cefnu ar yrfa fel cyfreithwraig i droi at ffasiwn

Kerys AugbayaFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNYDD
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Kerys eisoes 15,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl i filoedd o ddisgyblion ar draws Cymru dderbyn canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chymwysterau galwedigaethol yr wythnos hon, mae nifer nawr yn ystyried eu camau nesaf.

Ond mae stori Kerys Augbaya, 41 o Gaerdydd, yn dangos nad yw hi fyth yn rhyw hwyr i newid trywydd.

Wedi 17 mlynedd yn gweithio fel cyfreithwraig, penderfynodd Kerys geisio gwireddu ei breuddwyd o weithio ym myd ffasiwn.

Dywedodd bod colli ei mam wedi gwneud iddi sylweddoli pa mor fyr yw bywyd.

Kerys AugbayaFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNYDD
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerys wedi rhoi blwyddyn i'w hun i ddod o hyd i'r swydd ddelfrydol

Wrth rannu ei stori ar wefannau cymdeithasol, dywedodd Kerys ei bod wedi rhoi blwyddyn i'w hun i ddod o hyd i'r swydd ddelfrydol ym myd ffasiwn.

"Os nad yw'n gweithio allan, dydy fy nghymwysterau i ddim yn mynd i unman. Gallaf fynd yn ôl," meddai.

Bu farw mam Kerys ychydig ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 39, ac mae'n dweud bod y profiad wedi "cael effaith enfawr" arni.

"Roeddwn i wedi colli fy hun yn y flwyddyn gyntaf ar ôl colli mam. Doeddwn i ddim yn teimlo fel fi fy hun."

'Falle bod rhywbeth arall i ddod'

"Bydd Mam wrth ei bodd yn gwybod bod fi'n gwneud hyn achos mae sens ffasiwn fi yn dod gan Mam. Roedd hi'n gwisgo fi a chwaer fi, ac roedden ni'n matchio trwy'r amser," meddai.

"Mae bywyd yn fyr ac ar ôl colli Mam, dyna be oedd yn mynd trwy'n meddwl i drwy'r amser.

"O'n i'n hapus yn y swydd, ond roedd llais bach yn fy mhen i'n dweud falle bod rhywbeth arall i ddod."

Kerys AugbayaFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNYDD
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Kerys, roedd ei pherthynas gyda'i mam yn un "arbennig"

Yn ôl Kerys, mae'r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i'r penderfyniad i newid gyrfa wedi bod yn "anhygoel".

Mae hi'n gobeithio ysbrydoli eraill i wneud yr un peth hefyd.

"Os y' fi'n gallu helpu rhywun arall i ddilyn gyrfa newydd pan ma' nhw'n 41 - dwi ddim yn ifanc bellach - fydda i'n hapus."

Mae Kerys hefyd yn teimlo ei bod hi'n bryd cynnig safbwynt arall i'n pobl ifanc ni.

"Mae gen i lys blant, a fi'n dweud wrtho' nhw trwy'r amser, nid prifysgol yw popeth. Ar ôl y canlyniadau, mae'r hyn sy'n digwydd, yn digwydd." meddai.

"Edrycha o gwmpas, mae'r byd yn fawr, mae 'na gymaint o opsiynau i bobl ifanc nawr. Cer amdani, mae bywyd yn fyr."

Pynciau cysylltiedig