Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 GMT+1 22 Medi
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw - y nawfed a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar hafan Cymru Fyw.
Y diweddaraf wrth i'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth gael ei holi gan arweinyddion y pleidiau ac ASau
Dyma'r tro cyntaf i Helen Jenner o Reform siarad fel arweinydd swyddogol y brif wrthblaid
Ymhlith y pynciau a gafodd sylw mae canolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer rheilffyrdd ger Ystradgynlais, blaenoriaethau iechyd ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro, gofal plant am ddim, y dreth gyngor a pharatoi ar gyfer tywydd eithafol
Doedd Dan Thomas AS a gafodd ei arestio'r wythnos ddiwethaf ac yna ei ryddhau ar ar fechnïaeth ddim yn bresennol yn y sesiwn brynhawn Mawrth
Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw - y nawfed a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth.
Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar hafan Cymru Fyw.
Ni ddylai cymunedau orfod dioddef canlyniadau troseddau gwastraff, meddai'r prif weinidog mewn ymateb i bryder ynghylch tipio anghyfreithlon.
Dywed AS Plaid Cymru Marc Jones fod pobl yn Fflint Wrecsam yn delio â hanes o ollwng gwastraff anghyfreithlon ar safleoedd gweithredol presennol.
"Dro ar ôl tro, rydym yn gweld y cwmnïau sy'n gyfrifol am y troseddau amgylcheddol hyn yn osgoi atebolrwydd trwy fynd i mewn i ddiddymiad a cherdded i ffwrdd o gostau adferiad," meddai.
Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod wedi ymrwymo i gefnogi rheoleiddwyr i fynd ar drywydd y rhai sy'n gyfrifol.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd CymruYr olygfa o'r Rhinogydd ger Harlech wedi tân mawr yn ystod haf 2026
Mae arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, yn rhybuddio bod Cymru "heb baratoi'n ddigonol ac mewn perygl o'r tywydd eithafol a ragwelir", gan gwyno bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu "dim ond £1m" ar gyfer "parodrwydd ar gyfer argyfyngau" mewn addasiadau i'r gyllideb ym mis Gorffennaf.
Mae'n galw ar y prif weinidog i greu "cronfa ar gyfer siociau hinsawdd" er mwyn dangos bod ei lywodraeth o ddifrif ynghylch diogelu cymunedau y gaeaf hwn.
Dywed Rhun ap Iorwerth fod "pryderon ynghylch effeithiau gwres, effeithiau oerfel ac ati" yn "rhywbeth rydym yn gweithio arno ar draws y DU".
Dywed fod gan Slaughter "fy ngair y byddaf yn bendant yn edrych ar sut rydym yn cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r gefnogaeth sydd ei hangen ar Gymru i baratoi ar gyfer yr ystod eang hon o fygythiadau a wynebwn yn y dyfodol".

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, yn dewis treth y cyngor fel pwnc i godi.
Mae'n gofyn: "Pam nad ydych chi'n helpu pobl gyda'u biliau treth y cyngor" yn hytrach na mynnu mwy o bŵer, wrth i economegwyr rybuddio am chwyddiant o 4%.
Mae Millar yn ailadrodd galwadau'r blaid am derfyn ar godiadau treth y cyngor – ac am refferenda os yw cynghorau am fynd y tu hwnt i hynny.
Dywedodd ap Iorwerth ei fod yn deall bod arweinydd y Ceidwadwyr "eisiau efelychu polisi Lloegr".
"Rwy'n atgoffa'r Senedd y byddwn yn wynebu toriadau mewn termau real i'r gwariant o ddydd i ddydd sydd ar gael i ni yn y flwyddyn ariannol nesaf."
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae biliau y dreth gyngor yn dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 2003
Mae arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, yn ailadrodd galwad ei blaid am wario mwy o arian ar anghenion dysgu ychwanegol.
Pleidleisiodd Llafur yn erbyn cyllideb atodol llywodraeth Plaid Cymru oherwydd y mater hwn, cyn toriad haf y Senedd.
Mae Skates yn dadlau bod plant dan anfantais "mewn perygl o ddod yn ail" i "ofal plant am ddim i filiynyddion" – cyfeiriad at gynllun Llywodraeth Cymru i ehangu darpariaeth gofal plant cyffredinol.
Dywed y prif weinidog fod trafodaethau gyda Llafur cyn y bleidlais ar y gyllideb "yn cynnig dros £100 miliwn, gan gynnwys £40 miliwn ar gyfer eleni", ac anogodd Skates i "ein helpu i roi'r cynllun ar waith er mwyn helpu'r teuluoedd hynny, yn ogystal â'r ysgolion ac awdurdodau lleol sydd angen gwario'r arian hwnnw."

Mae Jenner yn dilyn drwy ofyn: "A allwch chi wir edrych yn fy llygaid a dweud na wnaethoch chi siomi dioddefwyr yr wythnos diwethaf drwy bleidleisio yn erbyn ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru?"
"Cafodd un o'ch gweinidogion presennol ei gyhuddo gan ddioddefwr o gang o'r fath o fychanu ei phrofiad," meddai Jenner.
"Gadewch i ni edrych ar yr 11 wythnos diwethaf yn unig: mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yng Nghaerdydd, pum person wedi cael eu carcharu yn y Rhyl ac wyth dyn ar draws de Cymru wedi cael eu cyhuddo fel rhan o Operation Oak neu mewn cysylltiad â gweithgareddau meithrin perthnasoedd amhriodol gan gangiau."
Mae Rhun ap Iorwerth yn ateb: "Gallaf edrych yn eich llygaid bob dydd o'r wythnos a dweud wrthych fod gennym lywodraeth nad oes ganddi ddiddordeb mewn ennill pwyntiau gwleidyddol ynghylch mater sy'n hynod sensitif, ond sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â dod o hyd i atebion."
"Dywedasom fod angen i ni ddeall maint y broblem yng Nghymru.
"Cafodd gwaith ei wneud i ddeall maint y broblem yng Nghymru, ac mae'n amlwg bod gennym faterion yma y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw er mwyn diogelu pobl."
Mae'n dweud bod ei lywodraeth yn cefnogi'r ymchwiliad sy'n edrych ar "wersi y gellir eu dysgu".
Dechreuodd arweinydd newydd Reform Cymru, Helen Jenner, ei chyfraniad yn y Senedd wrth i'w chydweithwyr guro'r ddesg y tu ôl iddi.
Dywedodd fod y prif weinidog wedi pleidleisio mewn ffordd "gywilyddus" yn erbyn y cynnig yr wythnos ddiwethaf ynghylch gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol (grooming gangs), a oedd yn galw am ymchwiliad yng Nghymru yn unig.
Atebodd y prif weinidog nad oes dim byd pwysicach na diogelu "pobl sydd gennym ddyletswydd gofal tuag atynt".

Nid yw cyn-arweinydd Reform, Dan Thomas, wedi cyrraedd i gymryd ei sedd yn siambr y Senedd.
Cafodd ei arestio wythnos ddiwethaf wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall – mae’n gwadu gwneud unrhyw beth o’i le ac mae ar fechnïaeth yr heddlu.
Ymddiswyddodd yr wythnos ddiwethaf.
Mae Thomas yn parhau i fod yn Aelod o’r Senedd dros Reform.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae Dan Thomas wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau
Mae Paul Davies, AS y Ceidwadwyr, Ceredigion Penfro, yn gofyn "beth yw blaenoriaethau gofal iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion Penfro ar gyfer y deuddeg mis nesaf?"
Atebodd y prif weinidog: "Byddwn yn cydweithio'n agos â'r bwrdd iechyd lleol a phartneriaid i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n diwallu anghenion pobl leol yn wirioneddol.
"Rydym am sicrhau eu bod yn cael eu darparu nawr ac yn y dyfodol."

Daw'r cwestiwn cyntaf gan Andrew RT Davies, AS y Ceidwadwyr, Pen-y-bont Bro Morgannwg, sy'n gofyn am ddiweddariad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd.
Dywed Rhun ap Iorwerth, "comisiynwyd adolygiad i ystyried sut i sicrhau'r canlyniad gorau ar safle Nant Helen. Rydym yn awyddus nawr i ddatblygu cyfeiriad clir ar gyfer y gwaith gyda GCRE Limited".
Cafodd y prosiect ei lansio bum mlynedd yn ôl, ac mae wedi'i leoli yn hen chwarel glo brig Nant Helen ger Ystradgynlais.
Mae wedi derbyn £70m o arian trethdalwyr, ond heb ei hadeiladu,

Does dim gwaith adeiladu hyd yma ar safle'r hen waith glo brig yng Nghwm Dulais
Gofynnodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol, Andrew RT Davies, pryd y bydd y llywodraeth mewn sefyllfa i nodi beth mae'n bwriadu ei wneud.

Dywedodd ap Iorwerth nad oedd yn bwriadu beirniadu'r prosiect, ond ychwanegodd: "Mae angen i ni ddeall beth sydd wedi digwydd, gan fod y degau o filiynau o bunnoedd hynny wedi'u gwario ar y safle."
Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar fin dechrau yn y Senedd.
Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n Fyw" ar frig y llif byw.

Dyma'r tro cyntaf i Helen Jenner holi cwestiynau fel arweinydd swyddogol Reform.
Cafodd ei phenodiad ei gyhoeddi ddydd Llun gan arweinydd Prydeinig Reform, Nigel Farage yng Nghaerdydd.
Mae dyrchafiad Jenner yn golygu bod pob arweinydd grŵp yn y Senedd yn dod o ogledd Cymru am y tro cyntaf yn hanes datganoli.
Roedd ein gohebydd Daniel Davies yng Nghaerdydd adeg y cyhoeddiad:
Roedd ein gohebydd Daniel Davies yn bresennol adeg cyhoeddi enw arweinydd newydd Reform
Cafodd Helen Jenner ei geni yng Nghastell-nedd a'i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ym Malltraeth, Ynys Môn.
Dysgodd Gymraeg yn ysgolion cynradd Bodorgan a Llanfairpwll.
Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Pan oedd hi'n ifanc, roedd yn gantores mewn band o'r enw The Mephs – talfyriad o Mephistophelean Engines of Pleasure.
Bu'n gweithio yn y Brit School, sy'n arbenigo mewn celfyddydau a pherfformio, yn Croydon.
Yn Llundain y gwnaeth hi gyfarfod ei gŵr, Emmett Jenner, a fu'n ymgeisydd Reform yn Ynys Môn yn etholiad cyffredinol 2024.
Mae'r ddau wedi magu eu plant ar Ynys Môn.
Treuliodd hi flynyddoedd fel athrawes Saesneg yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Safodd dros y Brexit Party yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019, ac roedd yn aelod o UKIP yn flaenorol, pan oedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage, arweinydd presennol Reform UK.
Yn ôl cofrestr buddiannau'r Senedd mae'n treulio hyd at 5 awr yr wythnos yn diwtor Saesneg i fyfyrwyr tramor ar-lein. Dywedodd bod y "rôl yn fy helpu i gadw fy ngwybodaeth am y proffesiwn addysgu a phrofiadau pobl ifanc yn gyfredol".
Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - cyfle i arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.
Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Helen Jenner o Reform - ei chyfle cyntaf fel arweinydd swyddogol y brif wrthblaid, er iddi gymryd lle Dan Thomas fel dirprwy arweinydd yr wythnos diwethaf - Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.
Ffynhonnell y llun, Getty Images