bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyfres y Cymoedd

Adnabod Awdur:
Hywel Teifi Edwards


Awdur Merthyr a Thaf yng Nghyfres y Cymoedd

Dydd Iau, Awst 2, 2001
• Enw: Hywel Teifi Edwards - hanesydd eisteddfodol ac awdur y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cymoedd - Merthyr a Thâf - a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Bu’n ateb cwestiynau ar Raglen Nia Roberts, ar Radio Cymru.



• Ble gawsoch chi’ch geni a phryd?
Yn Llanddewi Aberarth ar Hydref 15, 1934.

• P’un oedd atgof melysaf eich plentyndod?
Y bore hwnnw pan aethon ni i Aberystwyth mewn tacsi i gwrdd â nhad oedd yn dod gartre o’r Almaen lle’r oedd e wedi bod yn garcharor rhyfel. Roeddwn i rywle tua 6 neu 7 oed. Roedd ’nhad wedi bod yn garcharor rhyfel ers 1941 am ddwy flynedd a hanner. Roedden nhw’n cyfnewid carcharorion a fe gath e ddod adre cyn y diwedd. Ar y môr oedd e, a dyn o Aberaeron oedd capten y llong gafodd ei suddo gan yr Almaenwyr a roedd nifer o bobol o’r ardal arni hefyd.

Roedd e’n un o’r rhai gafodd eu cyfnewid cyn diwedd y rhyfel oherwydd cyflwr ei iechyd e.

• Oes hobïau gennych chi?
Trïo heneiddio yn rasol - celwydd yw hwnna!

Mae gen i ddiddordeb ym mhob math o chwaraeon - gwylio nhw ar y teledu fydda i nawr. Pêl-droed - socer - wrth gwrs. Socer oedd y gêm yn Sir Aberteifi. Fe ddês i ymddiddori mewn rygbi ar ôl mynd i fyw yn y de, ond socer oedd y ngêm i.

Ac Arsenal oedd y nhîm i. Roedd yna bedwar o Gymry yn whare i Arsenal pan o’n i’n yr ysgol. A Wally Barnes oedd y capten - Cocni rhonc ond bod e wedi cael ei eni yn Aberhonddu pan oedd ei dad yno yn y fyddin.

Rwy’n cefnogi Arsenal o hyd ac yn llawenhau fod Patrick Vieira yn mynd i aros yno. Dwi erioed wedi bod yn Highbury - dwi eisie cadw’r rhith, mae’n debyg.

Buaswn i wedi dwli bod yn John Charles - y rhyfedda ohonyn nhw i gyd. Rhyw Fendigeidfran o wariwr socer. Roedd ei gampe fe’n rhyfeddol.

O’n i’n dwli ar griced a thenis hefyd. Rwy’n cofio Lew Hoad a Ken Rosewall yn dod o Awstralia i whare yn Wimbledon am y tro cyntaf. O’n i’n addoli Hoad.

Dyw tenis ddim beth oedd e. Mae’r gêm wedi mynd yn llawer mwy boring - roedd llawer mwy o artistiaid yn y gêm ers talwm. Roedd y gêm gymaint â hynny’n fwy araf a hyfrytach i’w gwylio. Doedd y racets ddim beth ydyn nhw nawr - ddim mor hi-tech - a roeddech chi’n cael mwy o shots hyd yn oed yn gêm y dynion. Roedd hi’n llawer mwy sgilgar.

Er bod McEnroe a Borg yn chwaraewyr rhyfeddol hefyd. Ond Lew Hoad oedd yn arwr i.

• Beth sy gyda chi yn eich poced?
Dim arian yn sicr - mae’r wraig yn mynd â’r rheini! Allweddi’r car a macyn - rhag ofn bydda i’n mynd lefen yn ystod y sgwrs yma!

• Oes rhywbeth rydych chi wedi difaru amdano?
Roedd byd y gân yn bwysig i ni fel teulu. Roedd Mam - sy’n 93 ac yn dal yn fyw, bendith arni - yn soprano hyfryd. A roedd fy whâr yn gyfeilydd tan gamp. Enillodd hi ar ganu’r piano yn Eisteddfod y Rhos, 1945.

Fi yw’r unig lob yn y teulu na wnaeth ddysgu darllen y node. Rwy’n cofio’n whâr yn trïo ’nysgu i - y cwbwl o’n i eisie o’dd mynd mâs i gico pêl. Rwy i wedi difaru nad ydw i wedi dysgu canu’r node. Dyw nghlust i ddim yn ddrwg, ond allwch chi ddim dibynnu ar eich clust bob amser.

Mae gen i edmygedd dibendraw a llatheidi o genfigen at gerddorion. Clywed y lleisiau godidog - llais go-iawn rwy’n feddwl - rhywun yn medru sefyll ar lwyfan a medru canu gerbron y byd.

• Ble bysech chi’n caru bod y funud hon?

Dwi ddim yn grwydrwr. Fe gês i helyntion iechyd ddechre’r saithdegau ac yn yr wythdegau a rhyw bethe digon diflas o’dd yn gallu ’nharo i’n ddirybudd ac i ryw radde fe wnaeth hynny gaethiwo fy awydd i grwydro. Bues i yn America y llynedd - gwlad wallgo, ro’n i’n falch dod ’nôl. Mae dyn yn canmol ei lwc a diolch i’w Dduw bod e fel ag y mae e.

Fe ddechreues i fynychu’r Llyfgell Genedlaethol gyda Gwenallt pan o’n i’n gwneud ymchwil yn y pumdegau.

Un o bleserau bywyd i fi hyd heddi yw mynd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae cael mynd drwy bapurau a chyfnodolion Oes Fictoria, pori yn rheini a dilyn ambell drywydd wrth fy modd i a’r amser yn hedfan.

• Pwy oedd y person diwetha wnaethoch chi siarad gydag e ar y ffôn?
Dafydd Lloyd Hughes ddoe. Byddwn ni’n cwrdd am ambell sgwrs yn y Ram yng Nghwman a chael ambell lasied o orenj jiws. Mae’n well gen i weld rhywun wyneb yn wyneb na siarad ar y ffôn. Mae’n gâs gen i’r dechnoleg fodern, yr e-bostio yma. Rwy’n credu fod pobol wedi cael eu gwneud i gwrdd â’i gilydd a siarad â’i gilydd.

• Pwy gymeriad hanesyddol fuasech chi’n hoffi ei gyfarfod?
Mae hanes Cymru’n llawn ohonyn nhw. Un yn sicr fuase William Williams Pantycelyn. Licien ni ofyn iddo beth fydde fe’n ofyn i fi sen i’n cael fy nal mewn Seiat gydag e. A gofyn iddo fe wedyn a fydde fe’n debyg o lunio emyn ar sail yr hyn weden i wrtho fe.

Roedd cynifer o’i emynau e yn emynau profiade’r Seiat. Dyna sy’n wneud e mor fendigedig. Pechaduriaid yn dod ato fe i gyffesu yn y Seiadau a’i awen ynte’n troi’r cyffesiadau hynny yn emynau sy’n ein gwaed ni.

Rwy’n arbennig o hoff o’r emynau hynny sy’n sôn am bererin a phererinion.

Mae’n debyg y cawn i driniaeth galed gydag e mewn Seiat.

• Ydych chi’n ymfalchïo o weld eich mab yn darllen y newyddion ar BBC1 am chwech o’r gloch?
Bydden i’n anferth o gelwyddgi ’sen i’n dweud bo fi ddim. Rwy’n gobeithio mai balchder naturiol yw e o weld rhywun yn gwneud ei job yn weddol gymen. Yn fwy na dim rwy’n rhyfeddu bod pobol yn dweud ei fod e’n debyg i fi.

Pan yw e’n dweud ei stori, mae’n debyg bod yna leisiau yn ei glust yn dweud pob math o bethe wrtho fe. Petae hynny’n digwydd i fi fe fydde yna atalnodau o fath gwahanol iawn yng nghanol y geiriau. Fydden i ddim yn para diwrnod yn y job. Mae ei fam yn fwy nerfus na fi drosto fe.

• Oes gennych chi gân rydych chi’n ei chasáu?
Oes nifer ohonyn nhw. Land of Hope and Glory yn bennaf. Mae honno’n codi o fy niddordeb i yn Oes Fictoria pan oedd hi ar ei mwyaf brochus a sarhaus.

Mae’n dda gen i fod Edward Elgar ei hunan yn cywilyddio at yr anthem imperialaidd yna. Fel alaw mae’n hyfryd ond am eiriau cableddus - Duw a’n gwaredo.

Fe fydda i’n gwrando ar rai o berfformiadau’r Proms - ond ddim y wedd yna.

Mae’r Saeson yn mynnu glynu wrth honna - dyna i gyd sy ’da nhw ar ôl o’u blydi ymherodraeth erbyn hyn!









Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy